Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
trefn
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Yn [[1263]], dan delerau [[Cytundeb Trefaldwyn]], dychwelwyd y rhan fwyaf o'r tiroedd i dad Owain, ar yr amod ei fod yn gwrogi i Lywelyn. Fodd bynnag, yn [[1274]] roedd Owain a'i dad mewn cynllwyn i lofruddio Llywelyn, a ffoesant i Loegr eto. Dan delerau [[Cytundeb Aberconwy]], dychwelwyd ei diroedd i Gruffudd ap Gwenwynwyn. Yn 1284, wedi marwolaeth Llywelyn, ymddengys i'r teulu ildio eu hawl i dywysogaeth Powys Wenwynwyn i [[Edward I, brenin Lloegr]], a'i derbyn yn ôl ganddo fel un o arglwyddiaethau'r gororau.
 
Bu farw Gruffudd tua [[1286]], a daeth Owain yn Arglwydd Powys. Roedd yn briod a [[Joan Corbet]], a chwsant ferch ac, yn ôl pob tebyg, bum mab. Merch Owain oedd [[Hawys Gadarn]] (1291 - cyn 1353). Gan ei bod yn aeres ei hunig frawd, Gruffydd (m. 1309), daeth yn ward y Goron, a rhoddwyd hi'n wraig i John Charlton ynghyd â [[barwniaeth Powys]], yn yr un flwyddyn. Cafodd ddau fab: John, ail arglwydd (Charlton) Powys ac Owen, a fu farw'n ddietifedd. Mae'n debygol mai yn [[Urdd Sant Ffransis|nhŷ'r Brodyr Llwydion]] yn yr Amwythig y claddwyd hi.
 
Ar ei farwolaeth tua 1293, aeth yr arglwyddiaeth i'w fab, [[Gruffudd de la Pole|Gruffudd]] neu Griffith, ac phan fu ef farw yn ddiblant yn [[1309]], aeth i'w ferch Hawise.