Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Crwst"

Lleihawyd o 1 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
s
(→‎Crwst choux: crwst pwff a ddefnyddir i wneud vol-au-vents)
B (s)
 
Bwyd [[pobi|pob]] a wneir o [[toes|does]] yw '''crwst'''. Gwneir y toes o [[blawd|flawd]], [[halen]], cymhareb uchel o [[braster|fraster]], ac ychydig o hylif. Gall hefyd gynnwys [[siwgr]] a chynhwysion eraill i flasu.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/446138/pastry |teitl=pastry (food) |dyddiadcyrchiad=5 Mehefin 2015 }}</ref> Y prif fathau o does a ddefnyddir i wneud crystiau yw crwst brau, crwst pwff, crwst haenog, a chrwst ''choux''. Mae gwasgedd [[anwedd dŵr]] yn chwyddo'r swigoed aer yn y toes tra'n pobi, a gall yr [[ager]] a gynhyrchir wrth i'r braster gyrraedd ei doddbwynt hefydd [[lefeinio]]'r crwst.<ref>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/49594/baking/50212/Sheeting-and-cutting |teitl=baking: steam leavening |dyddiadcyrchiad=5 Mehefin 2015 }}</ref> Lefeinir y mwyafrif o grystiau gan ager yn unig, ond ceir crystiau bras a lefeinir gyda [[burum]] megis [[crwst Danaidd|crystiau Danaidd]] a ''[[brioche]]''.<ref name=EB/><ref name=Davidson/>
 
[[Melysfwyd]]ydd yw'r mwyafrif o grystiau, ond ceir rhai crystiau sawrus megis ''[[voulvol-au-vent]]s'', ''[[bouchée]]s'', a [[rhôl selsig|rholiau selsig]]. Bwyteir crystiau melys am [[pwdin|bwdin]] ac hefyd am damaid gyda [[coffi|choffi]] yng nghanol y bore neu am [[te'r prynhawn|de'r prynhawn]].<ref name=Davidson/> Defnyddir crwst ar ffurf dalennau tenau i leinio padellau i wneud [[pei]]s a [[tarten|thartenni]]. Paratoir cig a [[pate]]s ''en croûte'' drwy eu hamlapio mewn crwst. Gellir hefyd siapio dalennau trwchus o grwst, a'u llenwi gyda [[sglein]] neu [[eisin]].<ref name=EB/>
 
== Geirdarddiad ==
65,359

golygiad