William Fuller-Maitland: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''William Fuller-Maitland''' ([[6 Mai]], [[1844]] - [[15 Tachwedd]], [[1932]]) yn fonheddwr Eingl-gymreig, yn gasglwr celf, yn [[Criced|gricedwr]] ac yn wleidydd [[Y Blaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] a gynrychiolodd [[Sir Frycheiniog (etholaeth seneddol)|Sir Frycheiniog]] yn [[Tŷ'r Cyffredin|Nhŷ'r Cyffredin]] o 1875 i 1895.
 
==Bywyd cynnar==
Cafodd Fuller-Maitland eni yn Neuadd Stansted, Swydd Essex yn fab hynaf i William Fuller Maitland, o [[Stansted]], a'r Garth, [[Aberhonddu]] a Lydia (née Prescott) ei wraig. Roedd ei dad yn gasglwr celf o fri a aeth ati i ail-adeiladu Neuadd Stansted fel cartref i'w casgliad, ond y bu farw cyn iddo gael cyfle i'w fwynhau.
 
Cafodd Fuller Maitland ei addysgu yng Ngholeg Brighton ac yn Ysgol Harrow, lle bu'n aelod o'r XI criced am bedair blynedd, ac yng [[Coleg Eglwys Crist, Rhydychen|Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen]].
 
== Gyrfa criced==
 
Tra yn Rhydychen bu Fuller-Maitland yn chwarae criced i'r Brifysgol lle'r oedd yn cael ei gydnabod fel bowliwr dinistriol. Ym 1864 cymerodd 8 am 58 erbyn MCC, 8 am 48 yn erbyn Surrey ac yn y gêm y Brifysgol cymerodd pedair wiced ym mhob batiad gan sicrhau buddugoliaeth i Rydychen. Ym 1865 cymerodd 4 wiced ym mhob batiad eto yn gêm y Brifysgol, a chymerodd 6 am 100 a 6 am 35 yn erbyn Surrey. Chwaraeodd yn yr un gemau ym 1866, ond nid oedd ei gyfanswm wiced mor uchel. Ym 1867 cymerodd 5 am 117 yn erbyn Surrey. Wedi hynny bu'n chware i Glwb Criced Marylebone ac i nifer o glybiau dosbarth cyntaf eraill gan gynnwys tîm y bonheddwyr yn yr ornest ''Gentlemen v Players'', Gogledd y Tafwys a I Zingari. Bu hefyd yn cynrychioli De Cymru, Bishops Stortford ac Essex.
 
Roedd Fuller-Maitland yn fowliwr araf braich dde a chymerodd 123 wiced dosbarth uchaf ar gyfartaledd o 15.72 a gyda pherfformiad gorau o 8 am 48. Roedd yn fatiwr dde a chwaraeodd 62 batiad mewn 38 gornest dosbarth uchaf gyda chyfartaledd o 13.85 a sgôr uchaf o 61.<ref> Cricket Archive ''William Maitland'' [http://www.cricketarchive.co.uk/Archive/Players/31/31171/31171.html] adalwyd 27 Mehefin 2015</ref>
 
==Cyfeiriadau==