Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ynys Dewi"

Ychwanegwyd 1 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
BNo edit summary
[[Delwedd:Ramsey Island, basalt rock formation near Porth Lleuog - geograph.org.uk - 913661.jpg|bawd|chwith|Creigiau basalt ger Porth Lleuog.]]
 
Dywedir fod un o'r capeli bach yn gell feudwy i [[Sant Iestyn]] ([[Lladin]], ''Justinian'', neu ''Stian'') tua'r flwyddyn [[500]]. Meudwy o [[Llydaw|Lydaw]] oedd Iestyn. Ymsefydlodd ar yr ynys gyda'i ddisgybl Honorius a'i chwaer a'i morwyn hithau. Rhoddodd Dewi Sant dir iddo ar yr ynys ac ar y tir mawr. Yn ôl traddodiad llofruddiwyd Iestyn gan ei weision gan dorri ei ben, ond cododd y sant ei ben i fyny a cherdded dros y tonnau i'r tir mawr. GofynoddGofynnodd i gael ei gladdu yno; mae olion [[Capel Iestyn]] i'w gweld yno heddiw. Yn ddiweddarach dadgladdiwyd ei gorff a chafodd ei osod yn ymyl Dewi Sant yn eglwys gadeiriol Tyddewi. Dywedir fod ffynnon ar Ynys Dewi i ddynodi'r llecyn lle syrthiodd pen y sant gan achosi dŵr i ffrydio o'r ddaear.
 
Yn ôl traddodiad arall roedd yr ynys ynghlwm wrth y tir mawr yn y gorffennol. Roedd nifer o bererinion yn croesi i weld Justinian ac roedd hynny'n ei aflonyddu beunydd, felly cymerodd fwyall a thorrodd y garreg i ffwrdd nes bod Ynys Dewi'n sefyll ar ben ei hun yn y môr.
2,637

golygiad