Walter Rice Howell Powell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 13:
 
Fe fu yn hael yn ei gymorth i wella adnoddau i drigolion ardal Llanboidy gan dalu am adeiladu ysgol newydd, neuadd marchnad a gwesty a chyfrannodd at adfer Eglwys y Plwyf . Yr oedd wedi dechrau cynllunio system cyflenwi dŵr i'r pentref cyn ei farwolaeth, sicrhaodd ei weddw bod y cynlluniau yn cael eu cyflawni a bod ffynnon goffa i Powell yn cael ei osod yn y pentref i nodi ei gymwynas olaf i'r Llan<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3761443|title=THELATEMRWRHPOWELLMPMAESGWYNNE - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser|date=1890-07-04|accessdate=2015-07-04|publisher=J. Daniel}}</ref>.
 
==Gyrfa gyhoeddus==
O gyrraedd oedran oedolyn ym 1840 bu Powell yn eistedd fel Ynad Heddwch ar fainc Sir Gaerfyrddin. Ym 1849 fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4346807|title=HUNTINGAPPOINTMENTS - The Welshman|date=1849-02-16|accessdate=2015-07-04|publisher=J. L. Brigstocke}}</ref>, bu hefyd yn gwasanaethu fel dirprwy Raglaw Sir Gaerfyrddin a dirprwy Raglaw Sir Benfro.
Fe fu Powell yn gefnogol i'r Blaid Geidwadol am gyfnod, yn isetholiad 1852 fe gyflwynodd y cynnig ffurfiol bod [[David Jones (AS Sir Gaerfyrddin)|David Jones, Pantglas]] yr ymgeisydd [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Ceidwadol]] yn cael ei ethol. <ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4347621|title=CARMARTHENSHIRE ELECTION - The Welshman|date=1852-05-14|accessdate=2015-07-04|publisher=J. L. Brigstocke}}</ref>; ond erbyn isetholiad 1857 yr oedd yn cynnig enw [[David Pugh (AS Caerfyrddin)|David Pugh]] fel ymgeisydd annibynnol <ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4349466|title=CARMARTHENSHIRE ELECTION - The Welshman|date=1857-06-19|accessdate=2015-07-04|publisher=J. L. Brigstocke}}</ref>. Pan benderfynodd Pugh s sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholiad cyffredinol 1868, yr oedd yn parhau i dderbyn cefnogaeth Powell<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4353717|title=MR PUGHS MEETING AT ST CLEARS - The Welshman|date=1868-10-02|accessdate=2015-07-04|publisher=J. L. Brigstocke}}</ref>
 
Safodd Powell yn aflwyddiannus fel ymgeisydd Rhyddfrydol [[Sir Gaerfyrddin (etholaeth seneddol)|Sir Gaerfyrddin]] yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1874|etholiad cyffredinol 1874]] gan ddod yn drydedd allan o bedwar ymgeisydd, safodd eto yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1880|etholiad cyffredinol 1880]] gan ddod i frig y pôl. Diddymwyd etholaeth Caerfyrddin ym 1885 gan rannu'r gynrychiolaeth rhwng dwy etholaeth newydd yn dychwelyd un aelod yr un, [[Dwyrain Caerfyrddin (etholaeth seneddol)|Dwyrain Caerfyrddin]] a [[Gorllewin Caerfyrddin (etholaeth seneddol)|Gorllewin Caerfyrddin]]. Cafodd enw Phillips ei gynnig i fod yn ymgeisydd Rhyddfrydol yn y ddwy sedd ond dewisodd derbyn ymgeisyddiaeth y Gorllewin, gan lwyddo i gipio'r sedd mwyn frwydr yn erbyn ei gyn cyd aelod dros y sir yr [[Frederick Campbell, Iarll Emlyn|Is-iarll Emlyn]]. Cadwodd y sedd yn etholiad 1886 ond bu farw cyn diwedd y tymor seneddol.
 
O ystyried ei safle cymdeithasol roedd agwedd wleidyddol Phillips yn eithaf radical i sgweier; roedd yn cefnogi'r bleidlais i ferched, yn cefnogi datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, yn cefnogi rhoi sicrwydd tenantiaeth i amaethwyr ac yn cefnogi rhoi telerau gwaith a chyflogau teg i weision fferm; yn wir roedd rhai o agweddau Phillips mor wrthyn i rai o'i gyd sgweieriaid a chefnogwyr y Ceidwadwyr fel eu bod yn ei gyhuddo o fod yn "Gomiwnyddol" <ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3387808|title=MRWRHPOWELLMPATCROSSINN - The Cardiff Times|date=1881-12-17|accessdate=2015-07-04|publisher=David Duncan and William Ward}}</ref>.
 
==Marwolaeth==
[[File:Monument to Walter Rice Howell Powell MP (1819-89) at Llanboidy NLW3361627.jpg|thumb|Cofeb Powell gan Augustus John NLW3361627]]Bu farw yn ei gartref Maesgwynne yn 71 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yng nghladdgell y teulu yn Eglwys St Brynach Llanboidy. Adeiladwyd cofeb i Powell gan [[Agustus John]] a osodwyd yn wreiddiol y tu allan i Eglwys St Brynach ond sydd bellach wedi symud i mewn i'r adeilad.
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}