Y rhan hynaf o'r eglwys yw'rmmmmei chanol, sy'n dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif. Mae'n debyg i'r [[cangell|gangell]] gael ei hychwanegu yn y [[14eg ganrif]]. Mae trawstiau pren y to (15fed ganrif) yn [[derwen|dderw]] tywyll a thros y blynyddoedd fe drwsiwyd rhannau o'r to gyda phren [[ywen|yw]], sydd o bosib wedi'u tyfu yn y fynwent, gan fod olion coed yw i'w cael yno. Lluniwyd y trothwy a chromfachau'r drws yn y 14eg ganrif er bod y drws ei hun ychydig yn iau.
Yn y [[15fed ganrif]] y codwyd y cyntedd, ac mae ynddo ffenestr fechan anghyffredin iawn, yn y wal dwyreiniol.