Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llangelynnin, Conwy"

Ychwanegwyd 4 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
dolen
(dolen)
 
==Y ffynnon==
Mewn cornel fechan o wal y fynwent swatia [[ffynnon]] wedi'i gwarchod gan wal betrual, amddiffynnol; ffynnon a elwir yn "Ffynnon Gelynnin". Oddi fewn ceir pwll o ddŵr, sydd hefyd yn siâp petrual. Credir ei bod yn medru gwella plant sâl. Byddai'r rhieni'n gosod eitemau megis dillad y plentyn yn y dŵr ac os byddai'r dilledyn yn arnofio, yna byddai'r plentyn yn gwella, ac yn byw.
 
Ar un cyfnod roedd to'n gorchuddio'r ffynnon, ac fel arfer gosodid meinciau hefyd. Mae'n ddigon posib mai'r ffynnon oedd yma gynaf - cyn yr eglwys - ac mai dyma pam y sefydlwyd yr eglwys yn y lleoliad hwn.