C.P.D. Derwyddon Cefn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B cywiro linc
Llinell 27:
Ffurfiwyd clwb '''Y Derwyddon''' gan [[Llewelyn Kenrick]], cyfreithiwr o [[Rhiwabon]], ym 1872. Pedair mlynedd yn ddiweddarch, roedd Kenrick yn allweddol wrth sefydlu [[Cymdeithas Bêl-droed Cymru]] er mwyn trefnu gêm rhyngwladol yn erbyn Yr Alban a cafwyd chwe chwaraewr o glwb Y Derwyddon, gan gynnwys Kenrick ei hun, yn chwarae yn y gêm hanesyddol cyntaf dros [[Tîm pêl-droed rhyngwladol Cymru|Gymru]]<ref>{{cite web |url=http://wfda.co.uk/international_details.php?id=1 |title=Welsh Football Data Archive: 1876 Scotland v Wales |published=Welsh Football Data Archive}}</ref>.
 
Ym [[1876]] daeth Y Derwyddon y clwb cyntaf o Gymru i gymryd rhan yng [[Cwpan FA|Nghwpan FA Lloegr]] ond ar ôl dod allan o'r het i herio Shropshire Wanderers, tynnodd y clwb allan o'r gystadleuaeth. Y tymor canlynol, llwyddodd y clwb i gyrraedd y trydydd rownd cyn colli yn erbyn y Royal Engineers<ref>{{cite web |url=http://www.statto.com/football/stats/england/fa-cup/1877-1878/results/r3third-round |title=1877-78 FA Cup |published=Stato.com}}</ref>.
 
Wedi sefydlu [[Cwpan Cymru]] ym 1877-78, llwyddodd Y Derwyddon i gyrraedd y rownd derfynol cyn colli 0-1 yn erbyn [[C.P.D. Wrecsam|Wrecsam]] a llwyddodd y clwb i gyrraedd saith rownd derfynol yn olynol rhwng 1879 a 1886 gan ennill y tls ar bump achlysur yn ogystal â chyrraedd Rownd yr Wyth Olaf o Gwpan FA Lloegr ym 1882-83 a'r Bedwaredd Rownd ym 1884-85.