Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "William Wallace"

Ychwanegwyd 1 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
teipio
B (4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB)
(teipio)
Pan fu farw [[Alexander III, brenin yr Alban]] yn 1286, dechreuodd cyfnod o ansicrwydd yn yr Alban. Ei aeres oedd ei wyres Margaret, nad oedd ond pedair oed ac yn byw yn [[Norwy]]. Bu Margaret farw yn 1290 ar ei ffordd i'r Alban o Norwy. Roedd nifer o bobl yn hawlio'r orsedd ar farwolaeth Margaret, a gofynnwyd i Edward I o Loegr farnu rhyngddynt. Dewisodd ef [[John Balliol]], a choronwyd ef yn frenin. Fodd bynnag manteisiodd Edward ar y cyfle i ymosod ar yr Alban. Erbyn Gorffennaf 1296 yr oedd wedi goresgyn y wlad, a gorfododd Balliol i ildio'r goron.
 
RywrydRywbryd tua'r adeg yma, dechreuodd Wallace ei ymgyrchoedd. Lladdodd ef a'i deulu [[William Heselrig]], Siryf Seisnig Lanark, ym mis Mai [[1297]], ac enillodd nifer o fuddugoliaethau yn ystod y flwyddyn. Ar [[11 Medi]], [[1297]], enillodd Wallace fuddugoliaeth dros y Saeson ym [[Brwydr Pont Stirling|Mrwydr Pont Stirling]], pan geisiodd y cadfridog Seisnig, Iarll Surrey, groesi pont gul. Ymosododd Wallace pan oedd y fyddin Seisnig ar hanner croesi, a bu lladdfa fawr.
 
[[Delwedd:Wfm wallace monument.jpg|250px|thumbnail|left|Cofgolofn William Wallace yn Stirling]]