Ariadaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 61 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q83922 (translate me)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 1:
Ffurf ar [[Cristnogaeth|Gristnogaeth]] a ddaeth yn boblogaidd yn [[Ymerodraeth Rufeinig y Dwyrain]] o'r [[3edd ganrif|drydedd ganrif OC]] ymlaen oedd '''Ariadaeth''' (neu '''Ariaeth'''). Fe'i dyfeisiwyd gan [[Arius]] (256-336 OC), offeiriad oedd yn gweithio yn [[Alecsandria]] yn yr [[Aifft]]. Doedd Ariadaeth ddim yn derbyn bod y [[Duw|Tad]] a [[Crist|Christ]] o'r un sylwedd. Yn ôl Arius, roedd [[Iesu Grist]], er ei fod yn dduwiol, yn israddol i'r Tad gan iddo gael ei greu ganddo.
 
Daeth Ariadaeth yn ddadleuol iawn yn yr [[Eglwys Fore]], ac fe'i condemniwyd fel [[heresi]] yng [[Cyngor Cyntaf Nicea|Nghyngor Cyntaf Nicea]] yn [[325]]. Ni ddaeth hyn â'r ddadl i ben, o achos poblogaeth Ariadaeth yn [[Yr Ymerodraeth Fysantaidd|Ymerodraeth Caergystennin]] a'r gefnogaeth a gafodd gan ymerodron diweddarach [[Caergystennin]] fel [[Constantius II]] a [[Valens]]. Fe wnaeth Ariadaeth golli tir ar ôl [[Cyngor Cyntaf Caergystennin]] o dan yr Ymerawdr [[Theodosius]] yn [[381]], ond arhosodd yn ddylanwadol ymysg y teyrnasoedd [[Germaniaid|Germanaidd]] cynnar, yn enwedig gan y [[Gothiaid]].