Ynys Môn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Penyderyn (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 157:
Heddiw [[Llangefni]] yw prif dref yr ynys, ac yno mae pencadlys [[Cyngor Sir Ynys Môn]]. Cynghorwyr annibynnol sydd yn y mwyafrif ar y cyngor. Ers etholiad 2008, dim ond [[Plaid Cymru]] a'r [[Plaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] sydd wedi eu trefnu yn grwpiau pleidiol ar y cyngor. Mae gweddill y cynghorwyr, yn aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill ac yn Annibynwyr, yn ymrannu yn grwpiau neu ffasiynau answyddogol: y mwyaf o'r ffasiynau hyn ar hyn o bryd (ers 2008) yw'r 'Annibynwyr Gwreiddiol', gyda 22 o gynghorwyr.
 
Mae'r ynys yn [[Ynys Môn (etholaeth Cynulliad)|Etholaeth Cynulliad]] ac yn [[Ynys Môn (etholaeth seneddol)|Etholaeth Seneddol]] ac yn rhan o [[Rhanbarth Gogledd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol)|Ranbarth Gogledd Cymru]] i'r [[Cynulliad Cenedlaethol]]. [[IeuanRhun Wynap JonesIorwerth]] ([[Plaid Cymru]]) yw [[Aelod Cynulliad]] Ynys Môn, ac Albert Owen ([[Plaid Lafur (DU)|Plaid Lafur]]) yw'r [[Aelod Seneddol]]. Ynys Môn yw'r unig etholaeth yng Nghymru i gael ei chynrychioli yn San Steffan gan bedair plaid wahanol yn ystod yr [[20fed ganrif]]. Daliodd [[Megan Lloyd George]] y sedd dros y Rhyddfrydwyr o 1929 hyd 1951, yna daliwyd hi gan [[Cledwyn Hughes]] dros y Blaid Lafur o 1951 hyd 1979, gan [[Keith Best]] dros y Ceidwadwyr o 1979 hyd 1987 a gan [[Ieuan Wyn Jones]] dros [[Plaid Cymru|Blaid Cymru]] o 1987 hyd 2001.
 
=== Cymunedau Môn ===