Crannog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Crofft-y-Bwla, Trefynwy
Llinell 5:
Prif fantais crannog oedd ei bod yn hawdd i'w hamddiffyn. Gellir cyrraedd at y crannog ar hyd cob neu dros bont o bren. Credir fod yr esiampl hynaf, [[Eilean Domhnuill]] yn Loch Olabhat ar ynys [[Gogledd Uist]], yn dyddio o 3200-2800 CC.. Mae'r rhan fwyaf ohonynt i dyddio o [[Oes yr Haearn]] a'r Canol Oesoedd Cynnar.
 
Yn [[Iwerddon]] a'r [[Alban]] y ceir y rhan fwyaf ohonynt, ond mae un esiamplneu ddwy o esiamplau yng Nghymru, yn [[Llyn Syfaddan]], [[Powys]] ac yn 'Crofft-y-Bwla', [[Trefynwy]]. Roedd teulu brenhinol [[Brycheiniog]] o darddiad Gwyddelig, ac efallai fod hyn yn egluro presenoldeb crannog, sy'n dyddio o ddiwedd y [[9fed ganrif]], yma.
 
==Crofft-y-Bwla, Trefynwy==
Yn 2012, tra'n tyllu mewn ystâd o dai o'r enw 'Parc Glyndŵr' yng nghanol [[Trefynwy]], darganfu Cymdeithas Archaeoleg Trefynwy olion crannog - tŷ enfawr, hir; mae Crofft-y-Bwla ar dir fferm Crofft-y-Bwla. Yn 2015 datgelwyd fod yr olion mor hen â'r [[Oes Efydd]] ac y bu yno waith adeiladu cychod mewn llyn enfawr, sydd wedi diflannu ers canrifoedd. Darganfuwyd ffosydd twfn, metr o led, yn sianeli hirion dros bridd a losgwyd ac a ddyddiwyd i'r Oes Efydd gan system dyddio radiocarbon: 5,000 o flynyddoedd yn ôl. Cafwyd hyd hefyd i lawer o olion preswylio o [[Oes y Cerrig]] a'r cyfnod pan y bu'r [[Rhufeiniaid yng Nghymru]].<ref>[http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/ancient-lakeside-settlement-older-pyramids-9702162#ICID=sharebar_twitter www.walesonline.co.uk;] adalwyd 2015</ref>
 
 
== Gweler hefyd ==
* [[Llyndy]]
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Hanes Iwerddon]]