Dreamcast: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sy234sn (sgwrs | cyfraniadau)
Creuwyd gan cyfieithu'r dudalen "Dreamcast"
 
Sy234sn (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Consol gemau]] ydy'r '''Dreamcast'''. ([[Japaneg]]: ドリームキャスト Hepburn: Dorīmukyasuto) Fe'i ryddhawyd gan [[Sega]] ar 27 Tachwedd, 1998 yn Japan, 9 Medi, 1999 yn [[Ngogledd America]], a 14 Hydref, 1999 yn [[Ewrop]]. Y Dremcast oedd y consol gemau cyntaf o'r chweched cenhedlaeth o gonsolau, rhyddhawyd cyn y [[Playstation 2|PlayStation 2]], GameCube ac [[Xbox]]. Ef oedd y consol olaf gan Sega, ar ôl 18 mlynedd yn y farchnad consol.
 
==Hanes==
Yn hytrach na defnyddio'r [[caledwedd]] drud o'r Sega Saturn a oedd yn aflwyddiannus, penderfynodd Sega i greu'r Dreamcast gyda chydrannau "eisoes ar gael" er mwyn lleihau'r costau, yn cynnwys Hitachi SH-4 CPU a NEC PowerVR2 GPU. Er gwaethaf yr ymateb llugoer o'r Dreamcast yn [[Siapan]], roedd y lansiad yn [[America]] yn lwyddiannus iawn, gydag ymgyrch farchnata fawr. Fodd bynnag, dechreuodd diddordeb yn y system newydd dirywio  oherwydd y PlayStation 2. Hyd yn oed ar ôl torri'r gost o'r consol sawl gwaith, methodd y Dreamcast i fodloni disgwyliadau, ac roedd y cwmni yn parhau i golli arian. Ar ôl newid mewn arweinyddiaeth, penderfynodd Sega i roi'r gorau i'r Dreamcast ar 31 Mawrth, 2001, yn gadael y busnes consol am byth ac ailstrwythuro ei hun. Erbyn hyn, mae Sega yn cyhoeddi gemau yn unig. Gwerthwyd 10.6 miliwn unedau Dreamcast ledled y byd.