Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Telyn"

Ychwanegwyd 1 beit ,  6 blynedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B (→‎Llyfryddiaeth: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|hu}} using AWB)
B
Mae [[Gerallt Gymro]] yn disgrifio telynau [[Iwerddon]], [[Cymru]] a'r [[Alban]] fel rhai a oedd â thannau efydd. Mae'n defnyddio union yr un geiriau i ddisgrifio cerddoriaeth Iwerddon a Chymru. Yn ôl Gerallt roedd dau fath o delyn yn llysoedd Cymru a dichon mai telyn rawn ar gyfer perfformio a datgan barddoniaeth oedd y naill ac mai telyn tannau efydd i berfformio'r gerddoriaeth offerynnol oedd y llall.
 
Mae peth o gerddoriaeth y Canol Oesoedd wedi goroesi yn llawysgrif enwog [[Robert ap Huw]] a gopiwyd tua 1613. Mae'r llawysgrif yn cynnwys tua 30 o ddarnau ar gyfer y delyn sydd wedi eu dyddio i'r cyfnod 1340-1485. Mae'n cynnwys y trebl a'r bas a dyma'r llawysgrif hynaf o gerddoriaeth delyn yn y byd. Technegau'r delyn tannau efydd a amlygir yn llawysgrif Ap Huw drwyddi draw. Mae'n cynnwys nifer o ffurfiau cerddorol megis Gostegion, Caniadau a Phrofiadau ar [[Pedwar mesur ar hugain|bedwar mesur ar hugain]] [[cerdd dant]] (Corffiniwr, Mac y Mwn Hir, Tytyr Bach at ati). Mae'r gerddoriaeth wedi ei seilio ar strwythur dau ddosbarth o nodau synsy'n ffurfio harmoni'r Cyweirdant a'r Tyniad ar sylfaen harmonig nid annhebyg i'r double tonic a glywir yng ngherddoriaeth [[pib]]au mawr yr Alban.
 
Mae nifer o feirdd cyfnod [[Beirdd yr Uchelwyr]] yn disgrifio'r delyn yn eu barddoniaeth. Mae'n ymddangos fod y delyn Gymreig yn y bymthegfed a'r unfed ganrif ar bymtheg â cholofn syth iddi gyda'r seinfwlch wedi ei naddu o un darn o gelynen neu ywen.
9,307

golygiad