Dreamcast: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sy234sn (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Sy234sn (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 40:
 
==Hanes==
Yn hytrach na defnyddio'r [[caledwedd]] drud o'r [[Sega Saturn]] a oedd yn aflwyddiannus, penderfynodd Sega i greu'r Dreamcast gyda chydrannau "eisoes ar gael" er mwyn lleihau'r costau, yn cynnwys Hitachi SH-4 CPU a NEC PowerVR2 GPU. Er gwaethaf yr ymateb llugoer o'r Dreamcast yn [[Siapan]], roedd y lansiad yn [[America]] yn lwyddiannus iawn, gydag ymgyrch farchnata fawr. Fodd bynnag, dechreuodd diddordeb yn y system newydd dirywio  oherwydd y PlayStation 2. Hyd yn oed ar ôl torri'r gost o'r consol sawl gwaith, methodd y Dreamcast i fodloni disgwyliadau, ac roedd y cwmni yn parhau i golli arian. Ar ôl newid mewn arweinyddiaeth, penderfynodd Sega i roi'r gorau i'r Dreamcast ar 31 Mawrth, 2001, yn gadael y busnes consol am byth ac ailstrwythuro ei hun. Erbyn hyn, mae Sega yn cyhoeddi gemau yn unig. Gwerthwyd 10.6 miliwn unedau Dreamcast ledled y byd.
 
Er gwaethaf ei amser byr ar y farchnad, a diffyg cefnogaeth trydydd parti, mae llawer o adolygwyr wedi dweud bod y Dreamcast "o flaen ei amser". Mae ganddi lawer o gemau greadigol ac yn arloesol, yn cynnwys ''Crazy Taxi'', ''Jet Set Radio'' and ''Shenmue'', yn ogystal â llawer o gemau arcêd. Y Dreamcast oedd y consol cyntaf i gynnwys modem i chwarae gemau arlein a mynd ar y [[rhyngrwyd]].