Tigranes Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Dim crynodeb golygu
Llinell 8:
Priododd Cleopatra o Pontus, merch [[Mithridates VI, brenin Pontus]], a gwnaeth gynghrair a Pontus. Eu cytundeb oedd fod Mithridates yn ceisio concro tiriogaethau Rhufeinig yn y gorllewin tra’r oedd Tigranes yn ymestyn ei diriogaethau yn y dwyrain. Wedi marwolaeth Mithridates II, brenin Parthia yn [[88 CC]], manteisiodd Tigranes ar wendid Parthia i gipio’r tiriogaethau yn yn Atropatene oddi wrthynt. Croesodd [[Afon Euphrates]] i ymgyrchu yn [[Syria]] yn erbyn yr [[Ymerodraeth Seleucaidd]].
 
[[Delwedd:Tigran Mets.jpg|200px1x1px|thumb|chwith|Tigranes Fawr, 74 CC, Antioch]]
Yn [[83 CC]] derbyniodd y Syriaid ef fel brenin. Gorfododd lawer o drigolion y tiriogaethau yr oedd wedi eu concro i symud i’w brifddinas newydd, [[Tigranocerta]]. Erbyn hyn roedd ei ymerodraeth yn ymestyn o’r [[Alpau Pontaidd]] yng ngogledd-ddwyrain [[Twrci]] heddiw hyd [[Mesopotamia]]. Ef oedd y cyntaf o frenhinoedd Armenia i fathu ei arian ei hun.