Senedd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Gweler hefyd: Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 52:
'''Cynulliad Cenedlaethol Cymru''' yw'r corff sy’n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo [[deddfwriaeth]] sy'n ymwneud â [[Cymru|Chymru]], ac yn dyrannu'r arian a rennir iddo gan [[Llywodraeth y Deyrnas Unedig|Lywodraeth y DU]]. Rhan o'i waith yw i ddwyn [[Llywodraeth Cymru]] i gyfrif.<ref name=Gwybod>{{cite web|url=http://www.cynulliadcymru.org/abthome.htm|title=Gwybodaeth am y Cynulliad |date=2012|publisher=|accessdate=30 Ebrill 2012}}</ref> Sefydlwyd y Cynulliad ym [[1999]] ar ôl cynnal [[refferendwm]] ym [[1997]].
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y corff democrataidd sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.<ref name=Cyn>{{cite web|url=http://wales.gov.uk/about/organisationexplained/nafw/?lang=cy|title=Cynulliad Cenedlaethol Cymru |date=8 Medi 2011|publisher=|accessdate=30 Ebrill 2012}}</ref>
Yr enw ar gorff corfforaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw Comisiwn y Cynulliad. Mae 60 o aelodau yn y Cynulliad ([[Aelod Cynulliad]] - AC). Mae 40 o'r aelodau yn cynrychioli [[etholaeth]] un aelod, ac mae'r 20 sy'n weddill yn cael eu hethol gan gynrychiolaeth gyfrannol dros y pum etholaeth ranbarthol yng Nghymru. Cânt eu cefnogi gan [[gweision sifil|Weision Sifil]] sy'n gweithio yn y meysydd datganoledig. Mae'r rhain yn cynnwys meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus, fel iechyd, addysg a'r amgylchedd.<ref name=Cyn/>
Mae aelodau yn cael eu hethol am dymor
== Grymoedd ==
|