Diwydiant gwlân Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Gweler hefyd: newidiadau man using AWB
B dol
Llinell 1:
Un o [[diwydiant|ddiwydianau]] traddodiadol [[Cymru]] yw '''diwydiant gwlân Cymru'''. Er nad yw'n ddiwydiant mawr erbyn heddiw, yn y gorffennol bu'n fodd ennill cynhaliaeth i nifer sylweddol o Gymry.
 
Dichon fod cynhyrchu [[gwlân]] o gnu [[dafad|defaid]] yn weithgaredd economaidd yn y wlad ers canrifoedd lawer. Cafodd y "diwydiant bwthyn" hwnnw hwb mawr yn y 12fed ganrif gyda sefydlu abatai'r [[Sistersiaid]] yng Nghymru. Un o brif weithgareddau economaidd yr abatai hyn, fu'n perchen tiroedd eang, oedd [[ffermio defaid yng Nghymru|magu defaid]] a chynhyrchu gwlân.
 
Yn y 18fed ganrif a'r 19eg, tyfodd y diwydiant yng nghefn gwlad Cymru. Roedd [[gweu]] [[hosan]]au gwlân yn gymorth i nifer o deuluoedd amethyddol gael tipyn o bres dros y gaeaf, gyda'r merched a gwragedd yn gwneud y gwaith fel arfer. Un o'r canolfannau mawr oedd [[Meirionnydd]], yn enwedig yn ardaloedd [[Y Bala]] a [[Dolgellau]]. Roedd canolfannau eraill erbyn y 1850au yn cynnwys ardal [[Y Drenewydd]] a [[Llanidloes]] ym [[Maldwyn]], cefn gwlad [[Llangollen]], tref [[Aberhonddu]], yr ardal o gwmpas [[Castellnewydd Emlyn]] a [[Llanbedr Pont Steffan]] yn ne [[Ceredigion]] ac ardal [[Caerfyrddin]].