Dafydd Ddu Eryri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 200px|bawd|Dafydd Ddu Eryri Yr oedd '''David Thomas''', sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol '''Dafydd Ddu Eryri''' (1759 - 1822) yn [[bardd|...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Yr oedd '''David Thomas''', sy'n fwy adnabyddus dan ei [[enw barddol]] '''Dafydd Ddu Eryri''' ([[1759]] - [[1822]]) yn [[bardd|fardd]] ac athro beirdd a aned yn [[Waunfawr]] yn yr hen [[Sir Gaernarfon]] ([[Gwynedd]]).
 
Roedd yn fab i wehydd ac ym more ei oes bu yntau'n dilyn yr un alwedigaeth. Cafodd fymryn o addysg elfennol gan glerigwr lleol ac aeth yn athro ysgol lleol. Daeth yn ffigwr pwysig yn niwylliant ei fro a hybai safonau barddoniaeth a dysgodd lu o feirdd lleol. Bu farw trwy foddi yn [[Afon Cegin]] yn 1822.
 
Roedd yn adnabyddus yn ei ddydd am ei [[awdl]]au, [[carol]]au a cherddi moesol a chrefyddol. Enillodd y fedal arian am ei awdl 'Rhyddid' yn [[eisteddfod]] y [[Gwyneddigion]] yn [[Llanelwy]], [[1790]]. Er nad yw o lawer o werth llenyddol mae'n mynegi'r wrthwynebiad cynnydol i [[caethwasaeth|gaethwasaeth]]. Enillodd dlwas arall yn eisteddfod y Gwyneddigion yn [[Llanrwst]], [[1791]]. Cyhoeddwyd detholiad o waith y bardd yn y gyfrol ''Corph y Gaingc'' yn [[1810]].