Dafydd Ddu Eryri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
chwaneg
Llinell 1:
[[Delwedd:Dafydd Ddu.JPG|200px|bawd|Dafydd Ddu Eryri]]
Yr oedd '''David Thomas''', sy'n fwy adnabyddus dan ei [[enw barddol]] '''Dafydd Ddu Eryri''' ([[1759]] - [[30 Mawrth]], [[1822]]) yn [[bardd|fardd]] ac athro beirdd a aned yn [[Waunfawr]] yn yr hen [[Sir Gaernarfon]] ([[Gwynedd]]).
 
Roedd yn fab i wehydd ac ym more ei oes bu yntau'n dilyn yr un alwedigaeth. Cafodd fymryn o addysg elfennol gan glerigwr lleol ac aeth yn athro ysgol lleol yn fuan ar ôl marwolaeth ei dad yn [[1781]]. Daeth yn ffigwr pwysig yn niwylliant ei fro a hybai safonau barddoniaeth a dysgodd lu o feirdd lleol. Treuliodd y rhan olaf o'i oes yn [[Llanrug]]. Bu farw trwy foddi yn [[Afon Cegin]] ynar noson ystormus, 30 Mawrth, 1822; cafwyd hyd i'w gorff dranoeth yn ymyl i'r sarn a geisiasai groesi. Fe'i claddwyd ym mynwent Llanrug a chodwyd cofgolofn yno gan ei gymwynaswr [[Peter Bailey Williams]], person y plwyf, i nodi ei fedd.
 
Roedd yn adnabyddus yn ei ddydd am ei [[awdl]]au, [[carol]]au a cherddi moesol a chrefyddol. Enillodd y fedal arian am ei awdl 'Rhyddid' yn [[eisteddfod]] y [[Gwyneddigion]] yn [[Llanelwy]], [[1790]]. Er nad yw o lawer o werth llenyddol mae'n mynegi'r wrthwynebiad cynnydol i [[caethwasaeth|gaethwasaeth]]. Enillodd dlwas arall yn eisteddfod y Gwyneddigion yn [[Llanrwst]], [[1791]]. Cyhoeddwyd detholiad o waith y bardd yn y gyfrol ''Corph y Gaingc'' yn [[1810]].
Llinell 11:
 
===Ffynonellau===
*[[Charles Ashton]], ''Hanes Llenyddiaeth Gymreig, o 1650 hyd 1850'' (Lerpwl, 1893)
*[[Bedwyr Lewis Jones]], 'The Literary Awakening in Arfon and Eifionydd', ''Atlas of Caernarvonshire'' (Caernarfon, 1977)
*D. Ambrose Jones, ''Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg'' (Lerpwl, 1922)