Rhaniad Gogledd-De yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q5535112 (translate me)
Llinell 1:
#ailgyfeirio [[Cymdeithas Cymru#Rhaniadau rhanbarthol]]
{{pwnc-defnyddiaueraill|'r rhaniad mewnol yng Nghymru|y rhaniad yng nghyd-destun yr holl Ddeyrnas Unedig|Rhaniad Gogledd-De yn y Deyrnas Unedig}}
 
Dywedir bod '''[[rhaniad Gogledd-De]] yn bodoli yng [[Cymru|Nghymru]]''', ac mae iddi agweddau [[diwylliant Cymru|diwylliannol]] ac [[economi Cymru|economaidd]]. O ran yr economi, mae [[ardal drefol|ardaloedd trefol]] y [[De Cymru|De]] (dinasoedd [[Caerdydd]], [[Abertawe]] a [[Casnewydd|Chasnewydd]]) yn ffyniannus o gymharu ag [[cefn gwlad|ardaloedd gwledig]] a mynyddig y [[Gogledd Cymru|Gogledd]]. Ynghŷd â ffactorau diwylliannol y rhaniad – yn bennaf y ffaith bod medr y [[Cymraeg|Gymraeg]], [[Cymreictod|hunaniaeth Gymreig]] a [[Cenedlaetholdeb Cymreig|chenedlaetholdeb]] yn uwch yn y Gogledd nag yn ardaloedd arfordirol y De (sydd wedi'u [[Seisnigo]] mwy yn y mileniwm diwethaf) – mae hyn yn broblem gymdeithasol yn y Gymru fodern.
 
Amwys yw statws [[Canolbarth Cymru]], sef [[Powys]] a [[Ceredigion|Cheredigion]], yn nhermau'r rhaniad Gogledd-De. Mae'r ardaloedd hyn yn weddol ffyniannus ond isel iawn yw eu [[dwysedd poblogaeth]]; mae nifer o drigolion y Canolbarth yn teithio i ardaloedd cyfagos i weithio. Amwys hefyd yw statws siroedd [[Sir Benfro|Penfro]] a [[Sir Gaerfyrddin|Chaerfyrddin]]: lleolant yn Ne'r wlad ond maent yn llai trefol na [[Gwent]] a [[Sir Forgannwg|Morgannwg]]. I gymhlethu'r sefyllfa ymhellach, mae rhannau o Sir Benfro – y rhanbarth i de [[Ffin ieithyddol Sir Benfro|Llinell Landsker]] – yn debycach i weddill De Cymru gan ei fod yn fwy Seisnig (gelwir yn "[[Lloegr]] Fechan tu hwnt i Gymru" neu ''Little England beyond Wales'') ac yn gyfoethocach na gweddill y sir; yn gyffredinol mae Sir Benfro yn [[microcosm|ficrocosm]] o'r rhaniad ar draws Cymru i gyd.
 
I gymhlethu'r darlun, mae rhai sylwebyddion gwleidyddol ac economegwyr yn gweld y rhaniad Gorllewin-Dwyrain yn fwy real a pherthnasol. Gwelir o'r mapiau isod fod Cymru'n ymrannu'n wleidyddol (pleidlais y refferendwm) ac ieithyddol (Cymraeg-Saesneg) ar echel trwy ganol y wlad, o'r gogledd i'r de; yn ogystal mae'r ardaloedd dwyreiniol - gogledd-ddwyrain Cymru, dwyrain Canolbarth Cymru ac arfodir De Cymru - yn fwy ffyniannus ac yn denu canran uchel o'r buddsoddiant economaidd yn y wlad. I raddau mae'r ymraniad yma yn cyfateb i ymraniad Cymru am ran helaeth o'r Oesoedd Canol yn ''[[Tywysogaeth Cymru|Pura Wallia]]'' a'r [[Y Mers|Mers]].
 
Yn y blynyddoedd diweddar, gellid dadlau fod y rhaniad Gogledd-De wedi dirywio rhywfaint. Dywed rhai bod ffiniau'r rhaniad yn esblygu, yn enwedig gyda newidiadau rhwng [[Gorllewin Cymru]] a'r [[Cymoedd De Cymru|Cymoedd]] ac awdurdodau lleol De Ddwyrain y wlad.<ref>{{ dyf gwe | url = http://www.pollsapartcymru.org.uk/docs/polls_apart_03_welsh.pdf | teitl = Etholiadau'n Eithrio <nowiki>[Etholiadau yng Nghymru]</nowiki> {{cyswlltPDF}} | dyddiadcyrchiad = 16 Mai | blwyddyncyrchiad = 2008 | cyhoeddwr = [[Scope (elusen)|Scope]] | dyfyniad = Bu rhaniad gogledd/de yng Nghymru ers sawl blwyddyn ond mae’r berthynas hon yn esblygu. Mae rhaniadau newydd wedi eu creu, yn arbennig rhwng Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a rhannau Dwyreiniol Cymru. }}</ref> Er enghraifft, o ran nifer o siaradwyr y Gymraeg, darganfuodd [[Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001|Gyfrifiad 2001]] bod mwy yn medru'r Gymraeg yn y Gorllewin nag yn rhai siroedd yn y Gogledd. Mae yna hefyd rhaniad Dwyrain-Gorllewin yng Ngogledd Cymru: mae Cymreictod a medr y Gymraeg yn uchel iawn yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] ac [[Ynys Môn]] (ardal ogleddol [[y Fro Gymraeg]]), ond oherwydd eu daearyddiaeth mae'r economi yn wan o gymharu â siroedd Gogledd Ddwyrain Cymru ([[Conwy (sir)|Conwy]], [[Sir Ddinbych]], [[Sir y Fflint]], a [[Wrecsam (sir)|Wrecsam]]). Nid yw hyn yn ddatblygiad diweddar: yn hanesyddol roedd y Gogledd Ddwyrain wastad yn fwy Seisnig (sylwer bod Sir y Fflint a rhannau o Wrecsam ar ochr Seisnig [[Clawdd Offa]]). Er hyn mae ystadegau ar nifer o bynciau cymdeithasol ac economaidd yn dangos bod y rhaniad Gogledd-De cyffredinol dal yn bodoli ar draws Cymru.
 
==Achosion a datblygiad==
Rhesymau [[hanes Cymru|hanesyddol]] a [[daearyddiaeth Cymru|daearyddol]] sydd wedi siapio'r rhaniad.
 
{{eginyn-adran}}
 
==Agweddau cymdeithasol a diwylliannol==
{{gweler|Cymdeithas Gymreig|Diwylliant Cymru}}
{{eginyn-adran}}
<gallery>
Delwedd:Siaradwyr y Gymraeg ym Mhrif Ardaloedd Cymru.png|Canrannau siaradwyr y Gymraeg yn awdurdodau lleol Cymru ([[Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001|Cyfrifiad 2001]])
Delwedd:Map o hunaniaeth Gymreig.PNG|Canrannau wnaeth ystyried ei hun yn "Gymreig" yn awdurdodau lleol Cymru (2006)
Delwedd:WalesRef1997.png|Mwyafrifoedd a bleidleisiodd o blaid neu yn erbyn datganoli yn [[refferendwm datganoli i Gymru, 1997|refferendwm 1997]]{{eglurhad|#00C000|Y bleidlais o blaid}}{{eglurhad|#0000C0|Y bleidlais yn erbyn}}
</gallery>
 
==Agweddau economaidd==
{{gweler|Economi Cymru}}
Y prif gyfrannwr i economi Cymru yw'r de pellaf; lleolir y mwyafrif o ddiwydiannau [[diwydiant gwasanaethau|gwasanaethau]] ac [[uwch-dechnoleg]] y wlad yma. Parhad o [[Coridor yr M4|Goridor yr M4]] yw'r ardal hon, ac felly mae ganddi cysylltiadau cludiant buddiol gyda [[Llundain]] a [[De Lloegr]] (gweler [[rhaniad Gogledd-De yn y Deyrnas Unedig]]). Gan amlaf mae'r ardal hon yn cynnwys dinasoedd Caerdydd a Chasnewydd, yn ogystal ag ardaloedd mwy gwledig [[Sir Fynwy]], [[Bro Morgannwg]], a [[Pen-y-bont ar Ogwr (sir)|Phen-y-bont ar Ogwr]]. Dim ond canran bach o holl dir Cymru yw'r rhanbarth ond preswylir cyfran uchel o'r boblogaeth yma. Weithiau ystyrir [[Abertawe (sir)|Abertawe]] a [[Castell-nedd Port Talbot|Chastell-nedd Port Talbot]] yn rhan o'r ardal ffyniannus hon ar hyd Goridor yr M4, ond gan amlaf ni chynhwysir y Cymoedd oherwydd parhaent i ddioddef o gyfraddau [[tlodi]] uchel iawn.<ref>{{ dyf gwe | url = http://www.jrf.org.uk/knowledge/findings/socialpolicy/0575w.asp | teitl = Monitro tlodi ac eithrio cymdeithasol yng Nghymru 2005 | dyddiad = [[Tachwedd]] [[2005]] | cyhoeddwr = [[Sefydliad Joseph Rowntree]] | dyddiadcyrchiad = 16 Mai | blwyddyncyrchiad = 2008 }}</ref>
 
==Safbwyntiau gwleidyddol==
{{gweler|Gwleidyddiaeth Cymru}}
Mae'r rhaniad Gogledd-De yng Nghymru a sut i'w ddatrys yn bwnc trafod gwleidyddol.
 
Ym Mai 2004 dywedodd [[Jenny Randerson]], [[Aelod Cynulliad|AC]] [[Y Democratiaid Rhyddfrydol|Ryddfrydol]] dros [[Canol Caerdydd (etholaeth Cynulliad)|Ganol Caerdydd]]:<blockquote>Mae Cymru'n wynebu her oherwydd ei daearyddiaeth. Cyfeirir byth a hefyd yn y Siambr at y rhaniad gogledd-de.<ref>{{ dyf gwe | url = http://www.cymru.gov.uk/cms/2/ChamberSession/38034064000E165A000034F700000000/N0000000000000000000000000020301.html | teitl = Y Cofnod Swyddogol | cyhoeddwr = [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] | dyddiad = [[4 Mai]], [[2004]] | dyddiadcyrchiad = 16 Mai | blwyddyncyrchiad = 2008 }}</ref></blockquote>
 
Cyn [[etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007|etholiad 2007 y Cynulliad]] bu'r [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Blaid Geidwadol]] yng Nghymru yn addo i leihau'r rhaniad Gogledd-De trwy bolisïau bydd yn canolbwyntio ar adferiad yn y Gogledd, yn cynnwys cynyddu cyllid gwasanaethau rheilffyrdd y Gogledd ac adfywio cyrchfannau arfordirol megis [[y Rhyl]] a [[Bae Colwyn]].<ref>{{ dyf gwe | iaith = en | url = http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/tm_headline=tories-promise-to-bridge-the-north-south-divide-in-wales&method=full&objectid=18957639&siteid=50142-name_page.html | dyddiad = [[25 Ebrill]], [[2007]] | dyddiadcyrchiad = 16 Mai | blwyddyncyrchiad = 2008 | teitl = Tories promise to bridge the north-south divide in Wales | gwaith = [[Daily Post]] | cyfenw = Bodden | enwcyntaf = Tom }}</ref>
 
Yn 2008 dywedodd [[Alison Halford]], cyn-AC [[Y Blaid Lafur (DU)|Llafur]] dros [[Delyn (etholaeth Cynulliad)|Ddelyn]], bod y rhaniad yng Nghymru "yn real iawn ac yn hollol enfawr".<ref>{{ dyf gwe | iaith = en | url = http://www.eveningleader.co.uk/news/39Wales39-NorthSouth-divide-is-real.3918811.jp | dyddiad = [[27 Mawrth]], [[2008]] | dyddiadcyrchiad = 16 Mai | blwyddyncyrchiad = 2008 | teitl = 'Wales' North-South divide is real and absolutely huge' | gwaith = Evening Leader | cyfenw = Forrester | enwcyntaf = Kate }}</ref>
 
==Gweler hefyd==
* [[Materion cymdeithasol yng Nghymru]]
* [[Rhaniad Gogledd-De yn y Deyrnas Unedig]]
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Cymru}}
 
[[Categori:Daearyddiaeth economaidd Cymru]]
[[Categori:Demograffeg Cymru]]