Ynysoedd y Wyryf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Map o Ynysoedd y Wyryf Cadwyn o ynysoedd yng ngorllewin yr Ynysoedd Cyferwyntol yw '''Ynyso...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:17, 18 Awst 2015

Cadwyn o ynysoedd yng ngorllewin yr Ynysoedd Cyferwyntol yw Ynysoedd y Wyryf.[1] Maent yn cynnwys tua 90 o ynysoedd bychain, ynysigau, caiau a chreigiau a leolir 64–80 km o ddwyrain Puerto Rico ac yn ymestyn am tua 95 km tuag at Dramwyfa Anegada sy'n cysylltu Môr y Caribî a gweddill Cefnfor yr Iwerydd.[2] Maent ar gwr gogleddol yr Antilles Lleiaf, i'r gorllewin o Anguilla, Sant Marthin ac yr Ynysoedd Cyferwyntol eraill. Mae Tramwyfa'r Wyryf yn gwahanu Ynysoedd y Wyryf rhag grŵp o ynysoedd ger arfordir Puerto Rico a elwir yn Ynysoedd Sbaenaidd y Wyryf.

Map o Ynysoedd y Wyryf

Rhennir yr ynysoedd yn Ynysoedd Americanaidd y Wyryf yn y gorllewin, ac Ynysoedd Prydeinig y Wyryf yn y dwyrain. Un o ardaloedd ynysol yr Unol Daleithiau a weinyddir gan yr Adran Gartref yw Ynysoedd Americanaidd y Wyryf. Maent yn cynnwys y dair ynys fawr St. Croix, St. John, d St. Thomas,a rhyw 50 o ynysigau a chaiau bychain, a chanddynt cyfanswm arwynebedd o 345 km2. Tiriogaeth dramor Brydeinig yw Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, sy'n cynnwys y bedair ynys fawr Tortola, Anegada, Virgin Gorda, a Jost Van Dyke, a 32 o ynysoedd ac ynysigau bychain (mwy nag 20 ohonynt heb drigolion), a chanddynt cyfanswm arwynebedd o 153 km2.

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur yr Academi, [virgin: the Virgin Islands].
  2. (Saesneg) Virgin Islands. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Awst 2015.