Charles Morgan Robinson Morgan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 8:
 
Ym 1827 priododd Rosamund, merch y Cadfridog Godfrey Basil Mundy. Bu iddynt pum mab a chwe merch.
 
== Gyrfa filwrol ==
Gwasanaethodd Morgan fel capten ym milisia gorllewin Sir Fynwy o 1812, ym milisia gogledd Hampshire o 1819, ym milisia gorllewin Morgannwg o 1824 a milisia canol Morgannwg o 1829 i 1832.
 
Ym 1831 bu'n arwain milisia canol Morgannwg yn erbyn [[Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful|terfysgwyr Merthyr]] ond roedd y milisia yn gwbl aneffeithiol, felly galwyd milwyr llawn amser [[Ucheldirwyr Argyll a Sutherland]] i ail-sefydlu'r drefn. Dadfyddiniwyd milisia Canol Morgannwg y flwyddyn ganlynol o ganlyniad i'w aneffeithlonrwydd ond ni roddwyd unrhyw fai ar Morgan am fethiannau'r milisia, yn wir clodforwyd ef fel un haeddiannol o ddyrchafiad milwrol, er ni ddaeth y dyrchafiad  hyd 1846 pryd gafodd ei ddyrchafu yn Gyrnol Penswyddog milisia Gorllewin Mynwy, gan barhau yn y swydd hyd ei farwolaeth.