William Owen Pughe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 4:
Ganed Owen Pughe yn Nhy'n-y-bryn ym mhlwyf [[Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn)|Llanfihangel y Pennant]], [[Sir Feirionnydd]]. Symudodd ei deulu i fyw i dyddyn yn [[Ardudwy]] pan fu tua saith oed. Symudodd y dyn ifanc i fyw yn [[Llundain]] yn [[1776]] lle daeth i adnabod [[Owain Myfyr]]. Ymunodd â Chymdeithas y [[Gwyneddigion]] yn [[1782]] a daeth yn ddylanwad mawr ym mywyd llenyddol [[Cymry Llundain]]. Yn [[1790]] priododd Sarah Elizabeth Harper a chafodd fab ([[Aneirin Owen]]) a dwy ferch ganddi. Ei enw bedydd oedd William Owen, ond mabywsiadodd y cyfenw ychwanegol Pughe ar ôl etifeddu tir ger [[Nantglyn]] yn [[Sir Ddinbych]] yn [[1806]] a dychwelyd i Gymru lle treuliodd y rhan fwyaf o'i amser pan nad oedd yn ymweld â Llundain. Aeth ei iechyd yn fregus a bu farw mewn bwthyn yn perthyn i gyfaill, ger [[Llyn Talyllyn]], y 3ydd o Fehefin, 1835.
 
Roedd yn troi yn yr un cylch â rhai o ffigyrau llenyddol mwyaf ei oes, yn cynnwys Owain Myfyr, [[Iolo Morgannwg]] a [[Jac Glan-y-gors]]. Roedd yn ddyn caredig ond hygoelus. Daeth dan ddylanwad yry "broffwydesbroffwydoles" o [[Dyfnaint|Ddyfnaint]] [[Joanna Southcott]] (c.1750-1814) yn [[1803]] a bu'n fath o ffactotwm iddi hyd ei marwolaeth yn [[1814]]. Cafodd ei ethol yn aelod o'r Gymdeithas Hynafiaethol a rhoddodd [[Prifysgol Rhydychen]] y teitl o D.C.L. iddo yn [[1824]].
 
==Gwaith ieithyddol a golygyddol==