The West Wing: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 19:
}}
 
Mae '''''The West Wing''''' yn gyfres ddrama wleidyddol deledu a grëwyd gan Aaron Sorkin. Fe'i darlledwyd yn wreiddiol rhwng 22 Medi, 1999 a 14 Mai, 2006 ar [[NBC]]. Lleolwyd y gyfres yn bennaf yn yr adain orllewinol o'r [[Tŷ Gwyn]] lle saif y Swyddfa Hirgrwn a swyddfeydd staff hŷn yr arlywydd ffuglennol Josiah Bartlet (a chwaraewyd gan [[Martin Sheen]]) yn ystod ei weinyddiaeth [[Plaid Ddemocrataidd (Unol Daleithiau)|Ddemocrataidd]].
 
Cynhyrchiwyd The West Wing gan [[Warner Bros.|Warner Bros. Television]]. Ar gyfer y pedair cyfres gyntaf, yr roedd tri uwch gynhyrchwyr: Aaron Sorkin (a ysgrifennodd y rhan fwyaf o'r pedair cyfres gyntaf); Thomas Schlamme (prif olygydd); a John Wells. Ar ol i Sorkin adael y gyfres, daeth Wells yn brif ysgrifennwr, gyda chyfarwyddwyr yn Alex Graves a Christopher Misiano (cyfresi 6-7), ac ysgrifennwyr Lawrence O'Donnell Jr. a Peter Noah (cyfres 7) yn troi'n uwch gynhyrchwyr.
 
Darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ar NBC yn 1999, ac y mae wedi cael ei darlledu ar nifer o sianeli mewn gwledydd eraill. Daeth y gyfres i ben ar 14 Mai, 2006 ar ol saith cyfres.