Kroumirie: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Mae'r '''Kroumirie''', neu'r '''Khroumirie''', yn rhanbarth fynyddig yn y [[Maghreb]]. Fe'i enwir ar ôl y bobl Kroumiriaid lleol.
 
Mae mynyddoedd y Korumirie yn ymestyn yn gadwynoedd o fryniau coediog canolig eu huchder yng ngogledd-orllewin [[Tunisia]] a rhan gyfagos o ogledd-ddwyrain [[Algeria]]. I'r gogledd ceir gwastadedd ar lan y [[Môr Canoldir]], i'r dwyrain mae gwastadeddau ardal [[Bizerte]], i'r de ceir dyffryn [[afon Medjerda]] ac i'r gorllewin ymdoddant i fryniau Algeria dros y ffin, a nodir gan copa [[Djebel Abiod]], yn Tunisie, pwynt uchaf y Kroumirie.
 
Mae'n un o'r ardaloedd gwlypaf yng [[Gogledd Affrica|Ngogledd Affrica]], sy'n derbyn rhwng 1000 a 1500 mm o law y flwyddyn.
Llinell 23:
 
== Canolfannau ==
Mae'r Kroumirie yn ardal o bentrefi bychain yn hytrach na threfi mawr. Lleolir yr unig drefi sylweddol ar ei ymylon, yn arbennig [[Tabarka]] i'r gogledd (sydd â phoblogaeth ethnig sylweddol o Kroumiriaid) a [[Jendouba]] a [[Béja]] yn nyffryn [[afon Medjerda]].
 
Yn y bryniau yr unig ganolfan o bwys yw [[Aïn Draham]], sy'n ganolfan [[coedwigaeth]] a [[twristiaeth|thwristiaeth]]. Mae'n cael ei disgrifio weithiau fel "[[brynfa]] Tunisia."