Jane Fonda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ciwcymbr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Ciwcymbr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 16:
Mae '''Jane Fonda''' (ganed '''Lady Jayne Seymour Fonda'''; [[21 Rhagfyr]], [[1937]]) yn actores, ysgrifenwraig, actifydd gwleidyddol, cyn-fodel ffasiwn a gwrw ffitrwydd. Mae wedi ennill [[Gwobrau'r Academi|Gwobr yr Academi]] dwywaith, ac yn 2014, derbyniodd wobr gan y Sefydliad Ffilmiau Americanaidd am yr hyn y mae wedi cyflawni yn ystod ei bywyd.
 
Gwnaeth Fonda ei debut ar Broadway yn y ddrama 1960 There Was a Little Girl, a fe'i henwebwyd am ddwy [[gwobr Tony|Wobr Tony]], a gwnaeth ei debut ar y sgrin yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn yn ''Tall Story''. Daeth yn amlwg ar olôl ymddangos mewn ffilmiau yn y 1960au, megis ''Period of Adjustment'' (1962), ''Sunday in New York'' (1963), ''Cat Ballou'' (1965), ''Barefoot in the Park'' (1967) a ''[[Barbarella (ffilm)|Barabella]]'' (1968). Ei gŵr cyntaf, Roger Vadim, oedd cyfarwyddwr ''Barbarella''. Yn ystod ei gyrfa, y mae wedi derbyn saith enwebiad am [[Gwobr yr Academi|Wobr yr Academi]], gyda'r cyntaf yn dod am ei pherfformiad yn ''They Shoot Horses, Don't They'' (1969), ac aeth yn ei blaen i ennill dwy [[Gwobrau'r Academi|Oscar]] yr Actores Orau yn y 1970au am ''Klute'' (1971) a ''Coming Home'' (1978). Fe'i henwebwyd hefyd am ''Julia'' (1977), ''The China Syndrome'' (1979), ''On Golden Pond'' (1981) a ''The Morning After'' (1986). Mae ei gwobrau eraill yn cynnwys [[Gwobr Emmy]] am y ffilm deledu 1984 ''The Dollmaker'', dwy [[Gwobr BAFTA|Wobr BAFTA]] am ''Julia'' a ''The China Syndrome'' a phedair [[Gwobr Golden Globe]].
 
Yn 1982, rhyddhaodd ei fideo ymarfer corff cyntaf, ''Jane Fonda's Workout'', ac y fideo ymlaen i werhtu'n dda. Ef oedd y cyntaf o 22 fideo ymarfer corff a rhyddhawyd dros y 13 mlynedd nesaf, a gwerthodd dros 17 miliwn o gopïau.
 
== Ffilmyddiaeth ==