Jane Fonda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ciwcymbr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Ciwcymbr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 20:
Yn 1982, rhyddhaodd ei fideo ymarfer corff cyntaf, ''Jane Fonda's Workout'', ac aeth y fideo ymlaen i werhtu'n dda. Ef oedd y cyntaf o 22 fideo ymarfer corff a rhyddhawyd dros y 13 mlynedd nesaf, a gwerthodd dros 17 miliwn o gopïau. Yn 1991, ail-briododd Fonda i'w thrydydd gŵr, mogwl y cyfryngau, Ted Turner, wedi iddo ysgaru o'i ail ŵr Tom Hayden. Ar ôl ysgaru o Turner yn 2001, daeth yn ôl i actio wedi saib o 15 mlynedd gyda'r ffilm gomedi ''Monster in Law''. Ers hynny, y mae wedi ymddangos yn ''Georgia Rule'' (2007), ''The Butler'' (2013) a ''This Is Where I Leave You'' (2014). Yn 2009, dychwelodd i Broadway ar ôl 45 mlynedd yn y ddrama ''33 Variations'', a fe'i henwebwyd am [[Gwobr Tony|Wobr Tony]] am y perfformiad, yn ogystal â dau enwebiad [[Gwobr Emmy]] am ei rôl gylchol yn y gyfres ddrama [[HBO]] ''[[The Newsroom]]'' (2012-2014). Rhyddhaodd pum fideo ymarfer corff arall rhwng 2010 a 2012. Yn ddiweddar y mae wedi bod yn serennu yn y gyres ''[[Grace and Frankie]]'' (2015) ar [[Netflix]].
 
Yr oedd Fonda yn actifydd gwleidyddol amlwg yn y cyfnod gwrth-ddiwylliant yn ystod [[Rhyfel Fietnam]] ac yn ddiweddar y mae wedi ymgyrchu dros eiriolaeth i ferched. Tynnwyd ffotograff enwog a dadleuol ohoni yn eistedd ar gurfa wrth-awyren pan yn ymweld â [[Hanoi]] yn 1972. Mae hefyd wedi protestio yn erbyn [[Rhyfel Irac]] a thrais yn erbyn merched, ac yn disgrifio ei hunan fel [[Ffeministiaeth|ffeminydd]]. Yn 2005, cyd-sefydlodd Fonda, ynghyd â Robin Morgan a Gloria Steinem Canolfan y Cyfryngau i Ferched, sefydliad sy'n gweithio i fwyhau lleisiau merched yn y cyfryngau trwy eiriolaeth, hyfforddi yn y cyfryngau ac arweinyddiaeth, a chreu cynnwys gwreiddiol. Mae Fonda ar fwrdd y sefydliad ar hyn o bryd. Rhyhaodd hunangofiant yn 2005, yn ogystal â chofiant yn 2012, o'r enw ''Prime Time''.
 
== Ffilmyddiaeth ==