Melissa McCarthy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ciwcymbr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Ciwcymbr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 17:
 
Enillodd gydnabyddiaeth bellach am ei rôl fel Megan Price yn y ffilm gomedi 2011 ''Bridesmaids'', a fe'i henwebwyd am [[Gwobrau'r Academi|Wobr yr Academi]] am yr Actores Gefnogol Orau, enwebiad [[British Academy of Film and Television Arts|BAFTA]] ac enwebiad Gwobr Screen Actors Guild am yr Actores Gefnogol Orau. Yn 2013, cyd-serennodd yn ''The Identity Theif'' a ''The Heat'', hefyd yn ymddangos yn y ffimliau ''The Nines'', ''The Back-up Plan'', ''Life as We Know It'' a ''The Hangover Part III''. Yn 2014, serennodd McCarthy yn y comedi ''Tammy'' a'r ffilm gomedi-ddrama ''St Vincent''. Yn 2015, hi oedd prif seren y ffilm acsiwn comedi ''[[Spy (ffilm 2015)|Spy]]'', ac yn 2016 bydd yn serennu yn ffilmiau ''Michelle Darnell'' a ''Ghostbusters''.
 
Sefydlodd McCarthy y cwmni cynhyrchu On the Day Productions gyda'i gŵr Ben Falcone. Yn 2015, derbyniodd seren ar y Hollywood Walk of Fame, a rhyddhaodd casgliad dillad o'r enw Melissa McCarthy Seven7, ar gyfer merched sy'n gwisgo meintiau mwy. Hefyd yn 2015, fe'i henwyd fel yr actores sy'n ennill y trydydd swm mwyaf yn y byd gan ''Forbes''.