Melissa McCarthy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ciwcymbr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Ciwcymbr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 12:
}}
 
Mae '''Melissa Ann McCarthy''' (ganed 26 Awst, 1970)<ref>{{cite news|title=Monitor|newspaper=[[Entertainment Weekly]]|date=Aug 30, 2013|issue=1274|page=20}}</ref> yn actores, comediwraig, dylunwraig ffasiwn a chyfarwyddwraig Americanaidd.
 
Daeth McCarthy i amlgygwrydd wedi iddi ymddangos fel Sookie St. James yn y gyfres deledu ''[[Gilmore Girls]]'' (2000-2007), ac ers hynny y mae wedi serennu fel Dena yn y [[comedi sefyllfa]] [[American Broadcasting Company|ABC]] ''Samantha Who?'' (2007-2009) a fel Molly Flynn yn y comedi sefyllfa CBS ''Mike & Molly''. Ar gyfer y rôl hon, enillodd [[Gwobr Emmy|Wobr Primetime Emmy]] am Brif Actores Ragorol mewn Cyfres Gomedi<ref>{{cite web|url=http://www.tvfanatic.com/2011/07/emmy-award-nominations-revealed/ |title=And the 2011 Emmy Award Nominees Are |publisher=Tvfanatic.com |date=2011-07-14 |accessdate=2012-01-08}}</ref>, yn ogystal â dau enwebiad am wobrau eraill. Fe'i henwebwyd hefyd am Wobr Primetime Emmy am Actores Wadd Ragorol mewn Cyfres Gomedi ar gyfer ei gwaith ar ''Saturday Night Live''.
 
Enillodd gydnabyddiaeth bellach am ei rôl fel Megan Price yn y ffilm gomedi 2011 ''Bridesmaids'', a fe'i henwebwyd am [[Gwobrau'r Academi|Wobr yr Academi]] am yr Actores Gefnogol Orau, enwebiad [[British Academy of Film and Television Arts|BAFTA]] ac enwebiad Gwobr Screen Actors Guild am yr Actores Gefnogol Orau.<ref>[http://hosted.ap.org/dynamic/stories/U/US_OSCAR_NOMINATIONS_SUPPORTING_ACTRESS?SITE=AP&SECTION=HOME&TEMPLATE=DEFAULT Oscar nominations announced for supporting actress]</ref> Yn 2013, cyd-serennodd yn ''The Identity Theif'' a ''The Heat'', hefyd yn ymddangos yn y ffimliau ''The Nines'', ''The Back-up Plan'', ''Life as We Know It'' a ''The Hangover Part III''. Yn 2014, serennodd McCarthy yn y comedi ''Tammy'' a'r ffilm gomedi-ddrama ''St Vincent''. Yn 2015, hi oedd prif seren y ffilm acsiwn comedi ''[[Spy (ffilm 2015)|Spy]]'', ac yn 2016 bydd yn serennu yn ffilmiau ''Michelle Darnell'' a ''Ghostbusters''.
 
Sefydlodd McCarthy y cwmni cynhyrchu On the Day Productions gyda'i gŵr Ben Falcone. Yn 2015, derbyniodd seren ar y Hollywood Walk of Fame, a rhyddhaodd casgliad dillad o'r enw Melissa McCarthy Seven7, ar gyfer merched sy'n gwisgo meintiau mwy. Hefyd yn 2015, fe'i henwyd fel yr actores sy'n ennill y trydydd swm mwyaf yn y byd gan ''Forbes''.<ref>{{cite web|url=http://www.etonline.com/news/170344_jennifer_lawrence_scarlett_johansson_melissa_mccarthy_top_world_highest_paid_actresses_list/|title=Jennifer Lawrence, Scarlett Johansson, Melissa McCarthy Top World's Highest Paid Actresses List|work=Entertainment Tonight|accessdate=20 August 2015}}</ref><ref>{{cite web|url=http://www.dailymail.co.uk/tvshowbiz/article-3204878/Jennifer-Lawrence-tops-highest-paid-actress-list-52-million-Scarlett-Johansson-Melissa-McCarthy-round-three.html|title=Jennifer Lawrence tops Forbe's highest-paid actress list with Scarlett Johansson and Melissa McCarthy - Daily Mail Online|work=Mail Online|accessdate=20 August 2015}}</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}