William Glyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
==Bywgraffiad==
Ganed Glyn yn [[Heneglwys]], [[Ynys Môn]], yn fab i John Glyn. Addysgwyd ef yng [[Coleg y Breninesau, Caergrawnt|Ngholeg y Breninesau, Caergrawnt]]. Mae'n ymddangos iddo gydymffurfio a newidiadau crefyddol y brenin [[Harri VIII, brenin Lloegr|Harri VIII]], er iddo ymddiswyddo o gadair ei goleg yn ystod teyrnasiad [[Edward VI, brenin Lloegr|Edward VI]]. Pan ddaeth y frenhines [[Mari I, brenhines Lloegr|Mari]] i'r orsedd, daeth yn llywydd Coleg y Breninesau yn [[1553]], ac yr oedd yn un o'r rhai a yrrwyd i ddadlau â [[Nicholas Ridley]] a [[Hugh Latimer]] yn [[1554]]. Aeth i [[Rhufain|Rufain]] yn 1555, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno penodwyd ef yn Esgob Bangor. Gwasanaethodd fel [[Siryfion Sir Gaernarfon yn yr 16eg ganrif|Uchel Siryf Sir Gaernarfon]] ym 1562
 
Gadawodd fab o'r enw Gruffydd Glyn, fu'n hefyd yn Siryf [[Sir Gaernarfon]] ym 1564. Penodwyd [[Morys Clynnog]] yn Esgob Bangor fel olynydd iddo, ond bu farw'r frenhines Mari a bu raid iddo ffoi i Rufain cyn cael ei gysegru.
 
==Cyfeiriadau==