Palindrom: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
YiFeiBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 langlinks, now provided by Wikidata on d:q12321
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Gair]], ymadrodd neu frawddeg sy'n darllen yr un peth yn ôl ac ymlaen yw '''palindrom''' neu '''balindrôm'''.<ref>[http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1394134/llgc-id:1404672/llgc-id:1404706/getText Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru;] Y gwyddonydd - Cyf. 17, Rhif 4 Rhagfyr 1979; adalwyd 2 Ebrill 2015</ref>
 
Enghraifft o balindrom Cymraeg yw "A dyma'r addewid diweddar am y da",<ref>D. Geraint Lewis. ''[[Lewisiana]]'' (Aberystwyth, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., 2005), t. 71.</ref> "Lladd dafad ddall",<ref name=GPC/> "Wyneb di-wên i newid benyw", "Nia, ni lefara'n ara' fel 'i nain" a "Bara i arab".<ref name=GPC/>Palindromau o ran ystyr (ond nid llythrennau) yw'r geiriau 'nawr' a 'rwan'. O'u gosod at ei gilydd gyda chysylltair 'a', ceir: 'nawr a rwan', sy'n balandromig. Ceir rhai geiriau palandromig unigol, gan gynnwys: 'radar', 'madam' a 'cic'. Cyfansoddodd y Prifardd [[Eirian Davies]] linell o [[cynghanedd|gynghanedd]] baladromig: "Od nad wyf i fyw dan do" ('Hen dramp').
 
Benthyciwyd y gair palidrom neu palindrôm<ref name=GPC>{{dyf GPC |gair=palindrôm |dyddiadcyrchiad=1 Ebrill 2015 }}</ref> o'r Saesneg ''palindrome'' a fathwyd gan y dramodydd [[Ben Jonson]], o'r gwreiddiau [[Groeg (iaith)|Groeg]] ''palin'' ('''πάλιν'''; "eto") a ''dromos'' ('''δρóμος'''; "ffordd, cyfeiriad").