Pont Hafren: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Aled (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Pont grog sy'n pontio'r afon Hafren yn ne Swydd Caerloyw gyda phont grog llai yn pontio'r afon Wysg i Sir Fynwy yw'r '''Bont Hafren'''. Y groesfan wreiddiol rhwng Cymru a [[Lloeg...
 
Aled (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 12:
 
'''Pont Wysg'''
 
Pont 1340tr (408m) o hyd sydd wedi'i angori â cheblau yw'r Bont Wysg, ac mae'n pontio'r ffin a ddiffinir gan yr Afon Wysg i mewn i Gymru, 3km i'r de o Gasgwent.
 
'''Traphont Beachley'''
 
Adeiledd hytrawst deuflwch gyda dec concrit yw Traphont Beachley sydd wedi'i gynnal gan drestlau haearn wrth iddi grosi'r penrhyn. Gwersyll y fyddin sydd ar y penrhyn.
 
'''Pont Hafren'''
 
Lleolir Pont Hafren yn agos i leoliad y gynt Fferi Aust. Pont grog 5240tr (1597m)o hyd ydyw sydd â dec wedi'i gynnal gan ddau brif gebl sy'n hongian rhwng dau dwr haearn. Hyd y bwlch rhwng y ddau dwr yw 3240tr (988m). Y mae'r tyrrau'n wag ac yn codi 445tr (136m) uchben level y môr.
 
'''Traphont Aust'''
 
Adeiledd hytrawst deuflwch gyda dec concrit yw Traphont Aust ac y mae'n cario'r ffordd i angorfa gyntaf y Bont Hafren.