Arwel Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Arweinydd cerddorfa]] a [[cyfansoddwr|chyfansoddwr]] [[clasur]]ol o [[Cymru|Gymru]] oedd '''Arwel Hughes''' ([[25 Awst]] [[1909]]-[[23 Medi]] [[1988]]).
 
Cafodd ei eni yn [[Rhosllannerchrugog]]. Roedd yn dad i [[Owain Arwel Hughes]].
 
Astudiodd 'Cyfansoddi' gyda [[RRalph Vaughan Williams]], [[Gustav Holst]] a Prof. Kitson yng [[Y Coleg Cerddoriaeth Brenhinol|Ngholeg Cerddoriaeth Brenhinol]] Llundain.
 
Wedi iddo ddychwelyd i Gymru cafodd swydd yn y BBC ym 1935 a bu'n chwarae rhan bwysig yn natblygiad radio a theledu yng Nghymru. Chwaraeodd yntau ran bwysig yn natblygiad [[Cerddorfa Genedlaethol y BBC|Gerddorfa Genedlaethol y BBC]] a hefyd [[Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru|Gwmni Opera Cenedlaethol Cymru]]. Ym 1965 fe wnaethpwyd ef yn Bennaeth Cerdd y BBC yng Nghymru tan ei ymddeoliad yn [[1971]].