John Josiah Guest: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[File:Josiah John Guest.jpg|thumb|John Josiah Guest]]
Roedd Syr '''John Josiah Guest''', y Barwnig 1af ([[2 Chwefror]], [[1785]] - [[26 Tachwedd]], [[1852]]) (weithau ''Josiah John Guest'') yn beirianydd, yn fentrwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel [[Aelod Seneddol]] etholaethau [[Honiton]], [[Dyfnaint]] a [[Merthyr Tudful (etholaeth seneddol)|Merthyr Tudful]].<ref>Y Bywgraffiadur Guest (Teulu) [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-GUES-DOW-1722.html] adalwyd 1 Medi 2015</ref>
 
==Bywyd Personol==
Llinell 18:
*Constance Rhiannon Guest (1845-1916)
* Blanch Vere Guest -(1848-1919)
 
==Gyrfa==
Ar farwolaeth ei dad ym 1807 etifeddodd John ran ei dad yng Ngwaith Haearn Dowlais gan ddod yn llwyr berchennog y gwaith ym 1815. Llwyddodd i gynyddu allbwn y cwmni yn sylweddol o 5 mil tunnell o haearn ym 1806 i 75 mil tunnell ym 1849. O ganol y 1830au i ddiwedd y 1840au roedd gwaith Dowlais ar ei hanterth. Erbyn 1845 roedd yno deunaw ffwrnais (y nifer cyfartalog ar gyfer gwaith haearn oedd tri), gyda phob un yn cynhyrchu dros gant o dunelli bob wythnos. Roedd y safle yn cwmpasu 40 erw a'r gweithlu yn rhifo mwy na saith mil. Cafodd ail waith, ''Gwaith Ifor'' (wedi ei enwi ar ôl ei fab hynaf ei godi ym 1839 ar gost o £ 47,000. Gan fod y rhwydwaith rheilffyrdd yn ehangu trwy'r byd llwyddodd y cwmni i ennill contractau ym Mhrydain a thu hwnt, yn arbennig yn yr [[Almaen]], [[Rwsia]], ac [[Unol Daleithiau America]]. Ym 1844, er enghraifft, enillwyd archeb ddigynsail am 50,000 o dunelli o gledrau i Rwsia.
 
Roedd Guest yn flaengar yn ei ddefnydd o'r darganfyddiadau diweddaraf ym meysydd cemeg a pheirianwaith ac yn ymgysylltu â ffigyrau allweddol mewn datblygiad gwyddonol a thechnolegol. Etholwyd ef yn gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearegol yn 1818 a'r [[Y Gymdeithas Frenhinol|Gymdeithas Frenhinol]] ym 1830. Ym 1834 daeth yn aelod cyswllt o Sefydliad y Peirianwyr Sifil.
 
Roedd ei ddiddordebau busnes yn cynnwys pyllau glo yn Fforest y Ddena ac ef oedd cadeirydd cyntaf Cwmni Rheilffordd Cwm Taf. Roedd hefyd yn dirfeddiannwr gydag ystadau yn [[Drenewydd yn Notais|Nhrenewydd yn Notais]] a Canford Manor ger Wimborne, [[Swydd Dorset]]<ref>“Guest, Sir (Josiah) John, first baronet (1785–1852),” Angela V. John yn Oxford Dictionary of National Biography, ed. H. C. G. Matthew and Brian Harrison (Oxford: OUP, 2004); online ed., ed. Lawrence Goldman, May 2008, [http://www.oxforddnb.com/view/article/11716] adalwyd 1 Medi, 2015 trwy docyn darllenydd LLG</ref>