Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Mewnfudo"

Ychwanegwyd 2,218 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
cyfoesi
(map)
(cyfoesi)
{{cyfoes}}
[[Delwedd:Net migration rate world.PNG|420px|bawd|Mewnfudo ''nett'' cyfredol - positif (glas), negyddol (oren), dim data (llwyd)]]
'''Mewnfudo''' yw symud i mewn i wlad i fyw ynddi, gan unigolyn neu unigolion o wlad arall. Oherwydd y problemau cymdeithasol sy'n gallu codi pan fo nifer fawr o bobl yn mewnfudo mae'n bwnc llosg mewn sawl gwlad. Yn 2013 amcangyfrifodd y [[Cenhedloedd Unedig]] fod 231,522,215 o fewnfudwyr ar y Ddaear (tua 3.25% o boblogaeth y byd).<ref name="theguardian.com">Data blog, the Guardian, 2013, http://www.theguardian.com/news/datablog/2013/sep/11/on-the-move-232-million-migrants-in-the-world</ref>
 
Mewn cyd-destun [[DU|Prydeinig]], ac yn arbennig yn achos [[Lloegr]], mae nifer o bobl yn pryderu am y mewnfudo o wledydd [[Asia]]idd a'r [[Caribî]]. Mae hynny wedi bod yn faes ffrwythlon i fudiadau [[asgell-dde]] fel y [[BNP]] a [[UKIP]] sy'n ceisio elwa ar [[hiliaeth]]. Mae ymateb [[llywodraeth Prydain]] i hyn wedi amrywio dros y blynyddoedd. Dadleuodd [[Tony Blair]] fod angen rheoli mewnfudo, yn arbennig yn achos [[ceiswyr noddfa]]. Cymhlethir y sefyllfa gan y [[Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth]] a'r alwad am gyflwyno [[cerdyn cydnabod|cardiau cydnabod]].
 
===Yr Undeb Ewropeaidd===
Yn ôl [[Eurostat]], trigai 47.3 miliwn o bobl yn yr [[Undeb Ewropeaidd]] (UE) yn 2010 a anwyd y tu allan i'w gwlad. Mae hyn yn 9.4% o gyfanswm poblogaeth yr UE. Roedd 31.4 miliwn (6.3%) o'r rhain o du allan i'r UE ac 16 miliwn (3.2%) o wledydd Ewropeaidd eraill. Roedd y niferoedd uchaf o'r mewnfudwyr o du allan i wledydd yr UE yn [[yr Almaen]] (6.4 miliwn), [[Ffrainc]] (5.1 miliwn), y [[Deyrnas Gyfunol]] (4.7 miliwn), [[Sbaen]] (4.1 miliwn), [[yr Eidal]] (3.2 miliwn), a'r [[iseldiroedd]] (1.4 miliwn).<ref>[http://epp.eurostat.ec.europa.eu/cache/ITY_OFFPUB/KS-SF-11-034/EN/KS-SF-11-034-EN.PDF 6.5% of the EU population are foreigners and 9.4% are born abroad], Eurostat, Katya VASILEVA, 34/2011.</ref>
 
{|class="wikitable sortable" border=
! Gwlad
! Dwysedd poblogaeth / Milltir Sgwâr
! Cyfanswm y boblogaeth (1000)
! Cyfanswm a anwyd o du allan i'r wlad (1,000)
! %
! Ganwyd o fewn un o wledydd yr UE (1000)
! %
! Ganwyd o'r tu allan i un o wledydd yr UE (1,000)
! %
|-
| EU 27||188||501,098||47,348||9.4||15,980||3.2||31,368||6.3
|-
| [[Yr Iseldiroedd]]||1,052||16,575||1,832||11.1||428||2.6||1,404||8.5
|-
| [[Gwlad Belg]] <small>(2007)</small>||942||10,666||1,380||12.9||695||6.5||685||6.4
|-
| [[Y Deyrnas Gyfunol]]||662||62,008||7,012||11.3||2,245||3.6||4,767||7.7
|-
| [[Yr Almaen]]||583||81,802||9,812||12.0||3,396||6.2||7,415||9.8
|-
| [[Yr Eidal]]||522||60,340||4,798||8.0||1,592||2.6||3,205||5.3
|-
| [[Denmarc]]||339||5,534||500||9.0||152||2.8||348||6.3
|-
| [[Ffrainc]]||301||64,716||7,196||11.1||2,118||3.3||5,078||7.8
|-
| [[Portugal]]||298||10,637||793||7.5||191||1.8||602||5.7
|-
| [[Awstralia]]||263||8,367||1,276||15.2||512||6.1||764||9.1
|-
| [[Spain]]||240||45,989||6,422||14.0||2,328||5.1||4,094||8.9
|-
| [[Gwlad Groeg]]||212||11,305||1,256||11.1||315||2.8||940||8.3
|-
| [[Sweden]]||57||9,340||1,337||14.3||477||5.1||859||9.2
|-
|}
 
==Cymru==
 
Yn y 18ed a'r 19eg ganrif cafwyd [[Americanwyr Cymreig|mewnfudo i America o Gymru]]. Symudodd llawer o [[Crynwyr|Grynwyr]] Cymreig i [[Pennsylvania|Bennsylvania]].
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Comisiynydd}}