Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Mewnfudo"

Ychwanegwyd 11 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
(→‎Gwledydd Prydain: Dryswch parthed 'ble' a 'lle')
[[Delwedd:Map 13 Pobl a anwyd yng Nghymru % yn gallu siarad Cymraeg (3 oed a throsodd), Cyfrifiad 2001.PNG|bawd|260px|Map yn dangos y ganran a oedd yn gallu siarad Cymraeg yn 2001 ar sail y rhai oedd wedi eu geni yng Nghymru yn unig.]]
 
Yng [[Cymru|Nghymru]] mae'r ymateb yn wahanol gan fod canran uchel o fewnduwyr o Loegr yn symud i mewn i Gymru (yn enwedig y [[Fro Gymraeg]]) gan beryglu dyfodol yr iaith yn ei chadarnleoedd olaf trwy beidio cymathuâ chymathu â'r gymuned, a chodi prisiau tai y tu hwnt i gyrraedd pobl leol. Yn wahanol i Loegr mae'r ymateb cryfaf i'r sefyllfa yn dod o'r [[asgell-chwith]] genedlaetholgar yn hytrach na'r asgell-dde. Dau o'r grwpiau amlycaf yn y cyd-destun hwn oedd y mudiad [[Adfer]] (1970au a'r 80au) a [[Cymuned (mudiad)|Cymuned]] (2001-2009).
 
Erbyn Cyfrifiad 2001 roedd y dueddtuedd yn glir: mae'r ganran o'r boblogaeth sydd wedi'u geni y tu allan i Gymru'n cynyddu. Yn 2001 roedd 25% o boblogaeth Cymru wedi eu geni y tu allan i'r wlad. Roedd 21% wedi eu geni yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. O’r rhai a anwyd yng Nghymru, roedd 24.7% yn gallu siarad Cymraeg. O’r rhai a anwyd y tu allan i Gymru, 9.0% oedd yn gallu siarad Cymraeg.
 
Er bod mewnfudo blynyddol wedi lleihau ers ei uchafbwynt diweddar yn 2002, mewnfudodd dros 55 mil o bobl o weddill [[y Deyrnas Unedig]] yn flynyddol ar gyfartaledd rhwng 1991 a 2001 (fel cymhariaeth: mae poblogaeth [[Merthyr Tudful]] o gwmpas 56 mil). Crynswth y mewnfudo yw hwnnw. Mae pobl wedi bod yn symud allan bob blwyddyn hefyd ond gan fod llai wedi bod yn symud allan bob blwyddyn nag sydd wedi bod yn symud i mewn, mae mewnfudo net positif wedi digwydd yn flynyddol.
 
Gan nad oes cymunedau brodorol o siaradwyr Cymraeg tramor—agtramor—ac eithriadeithrio GwladfaGladfa'r Ariannin efallai—diefallai— ddi-Gymraeg fydd mwyafrif mawr y mewnfudwyr prynp'un ai o wledydd eraill Prydain neu o dramor y byddant yn dod. Cymry Cymraeg sy'n dychwelyd ar ôl allfudo mewn blynyddoedd blaenorol fydd y mwyafrif mawr o'r siaradwyr Cymraeg sy'n mewnfudo'n amlwg. Gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2001 gallwn amcangyfrif bodfod 3,600 o siaradwyr Cymraeg wedi mewnfudo i Gymru yn ystod y 12 mis cyn y Cyfrifiad—ynCyfrifiad— yn bennaf, mae’n debyg, myfyrwyr Cymraeg yn dychwelyd i Gymru ar ôl astudio mewn prifysgol yn Lloegr. Hyd yn oed pe bai’r nifer sy’n gallu siarad Cymraeg yn sefydlog, un canlyniad mewnfudo fyddai bod y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yn gostwng.
 
Ond gallwn ddisgwyl bod allfudiad net o siaradwyr Cymraeg, hynny yw, mae mwy o siaradwyr Cymraeg yn symud o Gymru nac sy’n symud yn ôl.
Mae nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg yn Lloegr yn bwnc o ddiddordeb gan mai nhw yw'r rhan fwyaf o’r Cymry Cymraeg ar wasgar. Bu cryn ddyfalu ynghylch eu niferoedd.
 
Amcangyfrifwyd wedi Cyfrifiad 2001 bod 110 mil o bobl oedd yn preswylio yn Lloegr yn 2001 yn gallu siarad Cymraeg yn rhesymol. Byddai nifer o'r fath—ynghydfath —ynghyd â mil arall yn yr Alban a Gogledd Iwerddon—ynIwerddon— yn golygu bod cyfanswm o fwy na 690 mil o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn y DU a bod tua 17% ohonynt yn byw y tu allan i Gymru rywle arall yn y DU. Cynhyrchodd arolygon BARB am y ddwy flynedd at ddiwedd Mehefin 2006 ar gyfer S4C amcangyfrif o 158 mil o siaradwyr Cymraeg (4 oed a throsodd) yn byw y tu allan i Gymru, gyda 153 mil ohonynt yn Lloegr.
 
==Mewnfudo i America o Gymru==
Defnyddiwr anhysbys