Dragon Data: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dolenni allanol ar y gwaelod bob tro
Rhysjj (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegu cyfeiriadau at y Dragon 32 a'r Dragon 64. Angen ychwanegu'r tudalennau hyn.
Llinell 1:
Cwmni cynhyrchu cyfrifiaduron cartref oedd '''Dragon Data'''. Fe'i sefydlwyd yn 1982 gan gwmni teganau [[Mettoy]] a oedd ar y pryd â'i bencadlys yn [[Fforestfach]], ger [[Abertawe]]. Gobaith y cwmni oedd manteisio ar gynnydd ym mhoblogrwydd cyfrifiaduron cartref, ddechrau'r 1980au. <ref name="digitalretro">{{cite book |last= Laing|first= Gordon|year= 2004|title= Digital Retro |publisher= Ilex|isbn= 1-904705-39-1 |page= 106}}</ref>
 
Cynnyrch enwocaf Dragon Data oedd cyfres o gyfrifiaduron Dragon (yn bennaf, y [[Dragon 32]] a'r [[Dragon 64]]), a werthwyd drwy'r post ac yn siopau Boots, Comet a Dixons rhwng 1982 ac 1984. <ref name="digitalretro2">{{cite book |last= Laing|first= Gordon|year= 2004|title= Digital Retro |publisher= Ilex|isbn= 1-904705-39-1 |page= 108}}</ref> Fodd bynnag, aeth y cwmni i drafferthion yn gynnar iawn, a bu raid i gonsortiwm, a oedd yn cynnwys [[Awdurdod Datblygu Cymru]], achub Dragon Data yn ariannol.<ref>{{cite web | title = Timeline |publisher=World of Dragon | accessdate = 9 Rhagfyr 2013 | url = http://dragondata.worldofdragon.org/history/timeline/index.htm }}</ref> Fel rhan o'r cytundeb gyda'r Awdurdod Datblygu, symudodd Dragon Data i ffatri yng [[Cynffig|Nghynffig]], [[Pen-y-bont ar Ogwr (sir)|Pen-y-bont ar Ogwr]].<ref>{{cite web | title = Gallery |publisher=World of Dragon | accessdate = 9 Rhagfyr 2013 | url = http://dragondata.worldofdragon.org/history/Gallery/out-kenfig.htm }}</ref>
 
Prynwyd Dragon Data gan gwmni o Sbaen, Eurohard SA, yn 1984.<ref>{{cite web | title = Dragon History |publisher=Binary Dinosaurs | accessdate = 9 Rhagfyr 2013 | url = http://www.binarydinosaurs.co.uk/Museum/Dragon/dragon-history.php }}</ref>