Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 12 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
penawde
[[Delwedd:BUWCH PNG 2.png|bawd|chwith|Map o'r ymadroddiadon a ddefnyddir i ddisgrifio ysfa buwch i genhedlu.]]
 
==Cymru==
===Gofyn tarw ac ymadroddion eraill===
Drwy Ogledd Cymru, hyd at Machynlleth, a ffin afon [[Dyfi]], 'gofyn tarw' yw'r ymadrodd mwyaf cyffredin a cheir ymadrodd ddigon tebyg ym [[Morgannwg]]: 'mofyn tarw'. Yng [[Ceredigion|Ngheredigion]] dywedir fod y fuwch yn 'wasod'.<ref> Daw'r term yma o 'gosod', mae'n debyg hy gosodir y tarw ar gefn y fuwch sydd mewn gwres.[http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html Geiriadur Prifysgol Cymru;] adalwyd Medi 2015</ref> Sonia [[Cyfraith Hywel|Cyfraith Hywel Dda]] ([[14eg ganrif]]) am ''"weithred tarw gra geisso gwartheg gwasawt o galan Mei hyd galan gaeaf."'' Mae dwy ardal ar wahân yn defnyddio'r un term, 'eisiau tarw', sef yr hen [[Sir Fflint]] a chanol [[Powys]].