John Edwards, Barwnig 1af Garth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
==Bywyd Personol==
Ganwyd Edwards ym 1770 yn fab i John Edwards, cyfreithiwr y Plas, Machynlleth a Cornelia unig blentyn byw ac aeres Richard Owen, Garth, Llanidloes. Roedd y teulu yn honni disgyniad o [[Llywelyn Fawr]], Tywysog Gwynedd.
 
Cafodd ei addysgu yng [[Coleg y Frenhines, Rhydychen|Ngholeg y Frenhines, Rhydychen]].
 
Ym 1792 priododd Catherine ferch hynaf a chyd etifedd Neuadd Mellington yr [[Yr Ystog|Ystog]], ni fu iddynt blant. Ym 1825 priododd Harriet ferch y Parch Charles Johnson a gweddw John Herbert Owen, ystâd Dolforgan. Bu iddynt un ferch Mary Cornelia a briododd Ardalydd Londonderry.
 
==Gyrfa==
Ar farwolaeth ei dad ym 1789 daeth Edwards yn etifedd Ystadau'r Plas a'r Garth gan ychwanegu at faint ei ystâd trwy ei briodasau, ei brif yrfa, gan hynny oedd un y sgweier, y tirfeddiannwr a'r landlord.
 
Bu hefyd yn gwasanaethu fel Is Gyrnol Milisia Gorllewin [[Sir Drefaldwyn]]
 
==Gyrfa Wleidyddol==
Cyn Deddf Diwygio'r Senedd 1832, dim ond pobl tref [[Trefaldwyn]] oedd yn cael pleidleisio yn etholaeth y Bwrdeistref, roedd y dref, a gan hynny'r sedd, ym mhoced teulu Herbert [[Castell Powys]]. O dan delerau'r ddeddf caniatawyd pleidleisiau i wŷr cymwys o drefi [[Machynlleth]], [[Llanidloes]] , y [[Y Trallwng|Trallwng]] , [[Llanfyllin]] a'r [[Y Drenewydd|Drenewydd]]. Gwelodd Edwards gyfle i dorri grym yr Herbertiaid a'r [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Torïaid]] gan ganfasio a thretio'r darpar etholwyr newydd wrth i'r Bill ymlwybro trwy'r Senedd a dyfod yn Ddeddf, gan wario ffortiwn o £20,000 ar y dasg (tua £76 miliwn yn 2014 yn ôl gwerth grym economaidd cymharol y bunt)<ref>MeasuringWorth [http://www.measuringworth.com/ukcompare/relativevalue.php?use%5B%5D=CPI&use%5B%5D=NOMINALEARN&year_early=1830&pound71=20000&shilling71=&pence71=&amount=20000&year_source=1830&year_result=2015] adalwyd 8 Medi 2015</ref>, er hynny collodd yr etholiad i [[David Pugh (AS Trefaldwyn)|David Pugh]], yr ymgeisydd Torïaidd a noddwyd gan Gastell Powys:
 
{{Dechrau bocs etholiad |
Llinell 36 ⟶ 37:
Heriodd Edwards y canlyniad ger bron Llys Etholiadol y Senedd, enillodd yr achos a gorchymynnwyd etholiad newydd, gan wahardd Pugh rhag ail ymgeisio. Canlyniad yr etholiad newydd oedd bod Edwards wedi ennill o 10 bleidlais; heriwyd y canlyniad gan yr ymgeisydd Torïaidd, Panton Corbett, yn y Llys Etholiadol ond dyfarnwyd o blaid Edwards. Llwyddodd i gad ei sedd hyd etholiad 1841 pan gafodd ei drechu gan [[Hugh Cholmondeley, 2il Farwn Delamere| Hugh Cholmondeley]].
 
Bu'n gwasanaethu fel [[Siryfion Meirionnydd yn y 19eg ganrif|Uchel Siryf Sir Feirionnydd ym 1805]] ac fel [[Siryfion Sir Drefaldwyn yn y 19eg ganrif|Uchel Siryf Sir Drefaldwyn ym 1818]].
 
Cafodd ei greu'n Farwnig ym 1838