Undeb Rygbi Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B nodyn eginyn (Cymru → chwaraeon Cymru)
angen logo
Llinell 1:
[[Delwedd:433px-Wru logo.png|bawd|200px|Logo Undeb Rygbi Cymru]]
 
'''Undeb Rygbi Cymru''' yw'r corff sy'n rheoli [[rygbi'r undeb]] yng [[Cymru|Nghymru]]. Sefydlwyd yn y "Castle Hotel" yng [[Castell-nedd|Nghastell Nedd]] gan 16 tim rygbi ar y 12fed o Fawrth, [[1881]].
 
== Ffrae enw'r Cwpan ==
Yn Awst 2006 cyhoeddwyd y byddai'r [[Tywysog Gwilym o Gymru|Tywysog William]] yn Ddirpwy Noddwr Brenhinol Undeb Rygbi Cymru o Chwefror 2007. Yn ogystal, cyhoeddodd yr URC eu bod am weld ci enillwyr y gemau prawf rhwng [[tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Cymru]] a [[tîm rygbi'r undeb cenedlaethol De Affrica|De Affrica]] yn cael ei galw'n "Cwpan y Tywysog William". Mae hynny wedi ennyn ymateb beirniadol iawn yng Nghymru am fod nifer o bobl yn gweld William fel cefnogwr Lloegr. Eisoes mae nifer o Gymry yn galw ar swyddogion Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu penderfyniad dadleuol i enwi'r tlws newydd yn "Gwpan y Tywysog William" ac yn galw am ei newid i "Cwpan Ray Gravell" er coffadwriaeth deilwng i'r diweddar [[Ray Gravell]]. Dadleuant fod enwi'r cwpan ar ôl y [[Tywysog Gwilym o Gymru|Tywysog William]], Sais sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth bersonol i dimau pêl-droed a rygbi [[Lloegr]], yn cwbl anaddas. Lawnsiwyd [[deiseb]] ar-lein yn galw am newid yr enw arfaethedig i "Gwpan Ray Gravell" ar 6 Hydref 2007; deuddydd yn ddiweddarach roedd dros 2,000 o bobl wedi ei harwyddo
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Rygbi'r undeb yng Nghymru]]