Cernyw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 33:
Mae tua mil o bobl yn siarad fersiynau cyfoes o'r iaith [[Cernyweg|Gernyweg]]. Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr yn defnyddio Kernewek Kemmyn, sydd wedi'i seilio ar [[Llenyddiaeth Gernyweg|lenyddiaeth Gernyweg]] Canol gydag orgraff i gynrychioli'r seiniau tybiedig. Hefyd mae defnyddwyr Kernewek Unyes (Cernyweg Unedig) a Kernewek Unyes Amendys (CU adolygedig) gydag orgraff Cernyweg Canol wedi'i safoni. Gwell gan rai siaradwyr ddefnyddio Cernyweg Diweddar, sef iaith yr [[17eg ganrif|17eg]] a'r [[18fed ganrif]]oedd.
 
[[File:Penzance 43133.jpg|thumb|Cernyweg, 'Croeso i Penzance' yn yr [[Gorsaf reilffordd Penzance]].]]
Bu farw [[Dolly Pentreath]], siaradwr olaf y Gernyweg yn ôl y chwedl yn [[1777]], ond mae tystiolaeth i siaradwyr eraill fyw tan ddechrau'r [[19eg ganrif]]. Gwnaeth yr iaith oroesi ar dafodau pysgotwyr i ryw raddau hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (ni wnaed yr ymchwil angenrheidiol ar y pryd). Mae peth adferiad yn digwydd nawr. O'r chwe [[Ieithoedd Celtaidd|iaith Geltaidd]], Cernyweg ydyw'r debycaf i'r [[Gymraeg]], er iddi serch hynny fod yn nes at y [[Llydaweg]] mewn rhai pethau.