Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cernyweg"

Ychwanegwyd 40 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
iaith a del
(iaith a del)
Mae'r Gernyweg yn hanu o iaith [[Brythoniaid]] de-orllewin [[Prydain]], a gafodd eu gwahanu o Frythoniaid y Gorllewin (y [[Cymry]]) wedi [[brwydr Deorham]], ym [[577]]. Aeth tiriogaeth y Brythoniaid yn y de-orllewin yn llai ac yn llai nes oddeutu [[810]], pan goncrwyd [[Dyfnaint]] gan y [[Sacsoniaid]] gan adael [[Cernyw]] yn unig yn nwylo'r Brythoniaid. Concrodd [[Athelstan]], brenin y Sacsoniaid, Gernyw tua [[920]], ond ni wladychwyd y wlad gan Saeson fel y digwyddodd yn y rhan fwyaf o [[Lloegr|Loegr]], ac [[Athelstan]] a wnaeth [[Afon Tamar]] yn ffin rhwng y Saeson yn [[Dyfnaint|Nyfnaint]] a'r Brythoniaid yng Nghernyw. Er hyn, parhaodd yr iaith i fyw hyd o leiaf [[18fed ganrif|y ddeunawfed ganrif]], gan gyrraedd uchafbwynt o oddeutu 38,000 o siaradwyr (amcangyfrif Ken George) yn [[13eg ganrif|y drydedd ganrif ar ddeg]].
 
[[Delwedd:Kornisch.png|de|ewin bawd|250px260px|Symudiad terfyn ieithyddol Cernyweg 1300-1750]]
 
Astudiwyd Cernyweg Modern Cynnar yn y [[1700au]] gan yr ieithydd o Gymro, [[Edward Lhuyd]]. Erbyn hyn, roedd yr iaith yn diflannu'n gyflym. Mae chwedl yn dweud mai'r person olaf i siarad yr iaith fel mamiaith oedd [[Dolly Pentreath]], a fu farw ym [[1777]]. Ond mae tystiolaeth bod rhai siaradwyr brodorol wedi parhau tan y [[19eg ganrif]]. Er iddi ddweud, yn ôl y chwedl, "My ny vydn kewsel Sowsnek!" - dwi ddim isio siarad [[Saesneg]]! - roedd hi yn gallu ychydig o Saesneg o leiaf. Mae'n bosibl mai'r person olaf i siarad Cernyweg yn unig oedd Chesten Marchant, a fu farw ym [[1676]]. Canrif yn ddiweddarach ([[1776]]), ysgrifennodd William Bodinar lythyr byr dwyieithog i'r hynafiaethydd Daines Barrington, y darn olaf o Gernyweg draddodiadol rugl a wyddys, yn ôl pob tebyg. Dyma ei ddiweddglo, ''Na ges moye vel pager po pemp en dreau nye, ell clapia Cornoack leben -- poble coath, pager egance blouth; Cornoack ewe oll naceaves gen poble younk'' (Does dim mwy na phedwar neu bump yn ein tre ni, sy'n gallu sgwrsio Cernyweg ar hyn o bryd—hen bobl, pedwar ugain blwydd; Cernyweg yw angofiedig yn hollol wrth y bobl ieuanc).
 
== Adfywiad ==
[[File:Penzance 43133.jpg|thumb|260px|Arwydd Cernyweg - 'Croeso i PenzancePensans', yn yryng [[Gorsaf reilffordd Penzance|Ngorsaf reilffordd Penzance]].]]
 
Ar ddechrau'r [[20fed ganrif|ugeinfed ganrif]], gwelwyd adfywiad yn yr iaith. Erbyn y [[1920au|dauddegau]], sefydlwyd ''[[Gorsedh Kernow]]'' - Gorsedd Cernyw, i sicrhau fod yr iaith yn parhau, yn debyg i fudiad yr [[Eisteddfod]] yng Nghymru. Ym [[1967]], sefydlwyd [[Kesva an Taves Kernewek]] - Bwrdd yr Iaith Gernyweg (mudiad gwirfoddol). Pwrpas y bwrdd oedd cynorthwyo pobl Cernyw, ac eraill, i ddysgu a siarad y iaith. Ym [[1979]] sefydlwyd [[Kowethas an Yeth Kernewek]] (''Cymdeithas yr Iaith Gernyweg'') i gynrychioli y rhai sy'n siarad a dysgu yr iaith, i gyd a'i hybu mewn sefyllfaoedd pob dydd. Mae'r Gowethas yn gymdeithas agor i bawb o blaid y Gernyweg, a'i haelodau yn ffurfio etholaeth am y Gesva (Bwrdd yr Iaith).