Croes Cwrlwys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
tarddiad yr enw
Llinell 1:
[[Delwedd:Culverhouse Cross Cardiff.jpg|bawd|dde|Croes Cwrlwys]]
Un o faesdrefi dinas [[Caerdydd]] yw '''Croes Cwrlwys''' ([[Saesneg]]: ''{{iaith-en|Culverhouse Cross''}}). Saif i'r gorllewin o ganol y ddinas, ger cyffordd y priffyrdd [[A48]], [[A4232]] ac [[A4050]], ac ar y ffîn rhwng Caerdydd a [[Bro Morgannwg]]. Mae yn [[Cymuned (llywodraeth leol)|nghymuned]] [[Gwenfô]]. Yma mae pencadlys [[ITV Wales]], a cheir nifer o barciau masnach yma.
 
== Tarddiad yr enw ==
Un o faesdrefi dinas [[Caerdydd]] yw '''Croes Cwrlwys''' ([[Saesneg]]: ''Culverhouse Cross''). Saif i'r gorllewin o ganol y ddinas, ger cyffordd y priffyrdd [[A48]], [[A4232]] ac [[A4050]], ac ar y ffîn rhwng Caerdydd a [[Bro Morgannwg]]. Mae yn [[Cymuned (llywodraeth leol)|nghymuned]] [[Gwenfô]]. Yma mae pencadlys [[ITV Wales]], a cheir nifer o barciau masnach yma.
Yr enw Saesneg Culverhouse Cross a ddaeth yn gyntaf. Ystyr ''culverhouse'' yw [[colomendy]], o'r Hen Saesneg ''culfre'' (sef [[colomen]]) a ''house''. Enw fferm oedd hwn, a cheir cofnodion o'r enw Culverhouse (1533, 1654–55), Culver House (1636, 1761) a Culferhouse (1813–14). Roedd [[croesffordd]] yn ymylu ar dir y fferm hon, lle croesai'r ffordd o [[Sain Ffagan]] i [[Gwenfô|Wenfô]] y briffordd o Gaerdydd i'r [[Y Bont-faen|Bont-faen]]. Enw'r fan hon oedd ''The Crossway'' ar ddiwedd yr 17eg ganrif, a cheir cofnod o'r enw Cymraeg Croesheol ym 1762. Erbyn 1885 cyfunodd y ddwy elfen gan roi'r enw Culverhouse Cross. Ar lafar, cafodd yr enw Culverhouse ei [[Cymreigio|Gymreigio]]'n "cwrlwys". Ceir cyfeiriad at Bedair Erw'r Cwrlwys a Dwy Erw'r Cwrlwys mewn [[les]] o 1786 ac at y fferm Cwrlwys mewn dogfen arall o 1776. Yn ôl Gwynedd O. Pierce bu trawsosodiad cytseiniaid i ddechrau gan droi -l-r yn -r-l, a cholli sillaf yr un pryd, i roi'r ffyrf dalfyredig cwrl-. Aeth ''house'' yn -(h)ws ac yna'n -wys. Gwelir y ffurf Curlass ar fap [[Emanuel Bowen]] o Dde Cymru ym 1729, sy'n adlewyrchu ynganiad Cymraeg llafar yr enw.<ref name=ADG>Gwynedd O. Pierce, Tomos Roberts a Hywel Wyn Owen. ''[[Ar Draws Gwlad|Ar Draws Gwlad: Ysgrifau ar Enwau Lleoedd]] (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 1997), t. 12.</ref>
 
Erbyn heddiw mae'r groesffordd wedi datblygu'n gymhlethdod o ffyrdd sy'n arwain i bob cyfeiriad, a cheir strydoedd o dai yn lle'r hen fferm, rhyw ychydig i'r de o [[Ysgol Uwchradd Glan Elái]].<ref name=ADG/>
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
{{Cymunedau Caerdydd}}
 
[[Categori:Ardaloedd Caerdydd]]
{{eginyn Caerdydd}}
 
[[Categori:Ardaloedd Caerdydd]]