Dŵr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Cyfeiriadau: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|eu}} (2) using AWB
tabl
Llinell 15:
 
Beth ydy [[berwbwynt]] dŵr? Yn anffodus - fel cymaint o ffeithiau gwyddonol mae’r ateb yn dibynnu ar eich safbwynt. Oherwydd gwasgedd isel yr awyr ar ben Mynydd Everest mae dŵr yn berwi ar ddim ond 70 gradd canradd. Dim gobaith am baned rhesymol o de yno, felly. Cyfeiria’r 100 gradd at wasgedd safonol awyr ar lefel y môr. Yn “Hafan Eryri”, caffi newydd [[yr Wyddfa]], bydd tegell yn berwi ar tua 97 gradd. Ond beth os plymiwch i ddyfnderoedd y môr? Yno mae’r gwasgedd yn cynyddu’n sylweddol - tuag un atmosffer ar gyfer pob 10 metr. Mi fyddai paned wedi’i baratoi (a’i yfed) ar waelod pwll nofio [[Bangor]] yn mesur dros 110 gradd braf ! Dros y tair blynedd diwethaf mae tîm o Brifysgol Bremen wedi bod yn mesur tymheredd dŵr yn codi o simneiau folcanig 3 cilomedr o dan wyneb yr Iwerydd.<ref>{{eicon en}} [http://www.gsajournals.org/perlserv/?request=get-abstract&doi=10.1130%2FG24726A.1 Koschinsky A. et al. Geology (DOI: 10.1130/G24726A.1)]</ref> Yno daethant o hyd i’r dŵr poethaf a fesurwyd erioed - 464 gradd canradd. Ond ar wasgedd o 300 atmosffer mae pethau rhyfedd yn digwydd i ddŵr. Nid yw’n berwi, fel y cyfryw, ond yn gweddnewid yn ddi-dor o hylif i anwedd - nid oes “swigod”. Gelwir hwn yn hylif uwch-gritigol. Dyma’r tro cyntaf i’w gweld ar y ddaear y tu allan i’r labordy. Bydd dŵr uwch-gritigol yn ymdoddi mineralau a metalau - megis aur a haearn - o’r creigiau yn effeithiol iawn, a thybir mai dyma darddiad llawer o halwynau’r môr. Wedi dod o hyd i, ac astudio’r, simneiau hyn bydd modd dysgu llawer am y prosesau sy’n creu’r moroedd a chynnal y bywyd sydd ynddynt.
 
==Dŵr ymhell o'r Ddaear==
Ym Medi 2015 cyhoeddodd [[NASA]] eu fod un o'u cerbydau gofod, ''Curiosity'', wedi darganfod olion dŵr ar ochrau un o geudyllau [[Planed |Mawrth]], sef Gale. Ceir cafnau ar ochr y ceudwll 154 [[km]] (96 [[mill]]) mewn diameter sy'n debyg i greithiau a adewir pan fo dŵr wedi llifo.<ref name="NASA-20120927">{{cite web |last1=Brown|first1=Dwayne |last2=Cole |first2=Steve |last3=Webster |first3=Guy |last4=Agle|first4=D.C.|title=''NASA Rover Finds Old Streambed On Martian Surface''|url=http://www.nasa.gov/home/hqnews/2012/sep/HQ_12-338_Mars_Water_Stream.html |date=27 Medi 2012|publisher=[[NASA]] |accessdate=28 Medi 2012 }}</ref><ref name="NASA-20120927a">{{cite web|author=NASA|author-link=NASA |title=''NASA's Curiosity Rover Finds Old Streambed on Mars - video (51:40)''|url=http://www.youtube.com/watch?v=fYo31XjoXOk |date=27 Medi 2012|publisher=[[NASA]]television|accessdate=28 Medi 2012 }}</ref> Eisioes yn Rhagfyr 2012, roedd gwyddonwyr wedi cyhoeddi fod dadansoddiad o bridd y blaned a analeiddiwyd gan ''Curiosity'' wedi awgrymu'r posibilrwydd y bu yno ddŵr ar un cyfnod, gan y canfuwyd yno foleciwlau dŵr, [[swlffwr]], [[clorin]] a chyfansoddion organig. Mae dŵr yn hanfodol i fywyd, ac yn un o'r pethau pwysicaf mae gwyddonwyr y gofod yn chwilio amdano.
 
Y pedwar lle mwyaf tebygol o fod a dŵr arnynyt yw Y Blaned Mawrth, Titan (un o leuadau [[Sadwrn]], [[Europa]] (un o leuadau [[Y Blaned Iau|Iau]] ac Enceladus (lleuad arall Sadwrn). Yn y tabl canlynol, edrychir ar y tebygolrwydd; nodir hefyd, er mwy eu cymharu - y Ddaear a'n lleuad:
 
{| class="wikitable"
|-
! Testun y pennawd !! Planed Daear !! Y Lleuad !! Y Blaned Mawrth !! Titan !! Europa !! Enceladus
|-
| || [[Delwedd:The Earth seen from Apollo 17.jpg|100px]] || [[File:Luna vista desde el hemisferio sur.jpg|100px]] || [[File:Celestia mars.jpg|100px]] || [[File:Titan Visible.jpg|100px]] || [[File:FullMoon2010.jpg|100px]] || [[File:Enceladus from Voyager.jpg|100px]]
|-
| Pellter o'r Ddaear<br /><small>(Mewn cilometrau)</small> || || 356,400 || 54 miliwn || 1.2 biliwn || 628 miliwn || Testun y gell
|-
| Diametr<br /><small>(Mewn milltiroedd)</small> || 7,918 || 2,159 || 4,212 || 1,950 || 3,200 || 313
|-
| Posibilrwydd || || Dim || Posibilrwydd cryf iawn fod dŵr o dan wyneb y blaned || Posibilrwydd cryf fod dŵr o dan wyneb y blaned || Posibilrwydd cryf iawn || Posibilrwydd cryf
|-
| Ymweliadau wedi'u trefnu || || Na || Yn 2015 roedd 5 lloeren yn ei amgylchynu a dau robot yn crwydro'i wyneb<br />*2018 ''ExoMars'' (Ewrop) || ''TiME'' (NASA) || *''US Europa'' (NASA)<br />*''European Juice'' (Ewrop) || *2030 ''Life Finder''
|}
 
== Gweler hefyd ==