Rhys ap Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
chwaneg / cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Perthynai Rhys i deulu dylanwadol iawn yn [[Dyffryn Tywi|Nyffryn Tywi]]; dywedai'r teulu eu bod yn ddisgynyddion [[Urien Rheged]]. Llwyddodd ei daid, [[Gruffudd ap Nicolas]], i ennill grym dros ran helaeth o dde-orllewin Cymru. Roedd tad Rhys, [[Thomas ap Gruffudd]], yn drydydd mab Gruffudd; priododd Elizabeth ferch Syr John Gruffudd, [[Abermarlais]] (ger [[Llandeilo]]), rhywbryd cyn [[1446]].
 
Erbyn i [[Harri Tudur]] lanio yn [[Sir Benfro]] yn Awst [[1485]] roedd Rhys mewn sefyllfa gref yn ne Cymru, a chododd fyddin o tua 2,000 o wŷr i gefnogi ymgais Harri i gipio coron Lloegr. Gwnaed ef yn farchog yn fuan wedi'r frwydrBrwydr honBosworth, a rhoddwyd nifer o swyddi yn ne Cymru iddo. Mae cerddi iddo gan nifer o feirdd y cyfnod, yn cynnwys [[Lewys Glyn Cothi]], [[Dafydd Nanmor]] a [[Tudur Aled]].
 
Pan fu farw Rhys yn 1525 cafodd ei gladdu mewn beddrod ym [[Priordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog]] yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]]; ar ôl [[diddymu'r mynachlogydd]] cafodd ei symud i Eglwys Sant Pedr lle mae i'w weld heddiw.