Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llanferres"

Ychwanegwyd 109 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
Eglwys Sant Berres, Llanferres
(Eglwys Sant Berres, Llanferres)
[[Pentref]] bychan, cymuned a phlwyf yn [[Sir Ddinbych]], gogledd-ddwyrain [[Cymru]], yw '''Llanferres'''. Mae'n gorwedd wrth droed llethrau dwyreiniol [[Bryniau Clwyd]], ar y briffordd [[A494]], tua hanner ffordd rhwng [[Yr Wyddgrug]] i'r gogledd-ddwyrain a [[Rhuthun]] i'r de-orllewin.
 
Saif y pentref ar lan orllewinol [[Afon Alun]]. I'r gorllewin ceir [[bryngaer]] [[Foel Fenlli]]. yng nghanol y penterf mae [[Eglwys Sant Berres, Llanferres]], a godwyd yn wreiddiol yn yr [[Oesoedd Canol]].
 
Yn yr Oesoedd Canol roedd y [[plwyf]] yn rhan o [[cwmwd|gwmwd]] [[Iâl]], yn nheyrnas [[Teyrnas Powys|Powys]] ([[Powys Fadog]]).