John Williams (casglwr llawysgrifau): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 2:
Casglwr [[llawysgrifau Cymreig]] ac un o sylfeinwyr [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] oedd Syr '''John Williams''' ([[1840]], [[Gwynfe]], [[Sir Gaerfyrddin]] - [[1926]]).
 
Brodor o Sir Gaerfyrddin oedd Syr John. Ar ôl gyrfa fel llawfeddyg yn [[Abertawe]] ac yng [[Coleg Prifysgol Llundain|Ngholeg Prifysgol Llundain]] a chael ei urddo'n farchog yn 1894 am ei wasanaeth i [[llawfeddygaeth|lawfeddygaeth]], dychwelodd i'w sir enedigol yn 1903 i fyw yn [[Llansteffan]].
 
Trwy gydol ei oes bu'n casglwr [[llawysgrif]]au brwd. Roedd ei gasgliad, a seiliwyd ar y casgliad cynnar a adwaenir fel [[Llawysgrifau Llansteffan]], yn cynnwys llawysgrifau ychwanegol a gasglwyd gan hynafiaethwyr fel [[Gwallter Mechain]] a Syr Thomas Phillipps, a rhai o lawysgrifau'r bardd [[Lewis Morris]], ac eraill. Yn ogystal, prynodd [[Llawysgrifau Peniarth|Lawysgrifau]] [[Peniarth]] yn 1908. Bu ganddo felly un o'r casgliadau gorau o lawysgrifau Cymraeg a luniwyd erioed yn ei feddiant.