Eglwys Bresbyteraidd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 3:
Datblygodd yr enwad allan o'r [[Diwygiad Methodistaidd]] yn y [[18fed ganrif]] dan arweiniad [[Howel Harris]], [[Daniel Rowland]] a [[William Williams, Pantycelyn]], ac yn ddiweddarach [[Thomas Charles]]. Yn y cyfnod yma roedd yn fudiad o fewn yr eglwys Anglicanaidd, a dim ond yn [[1811]] y dechreuodd ordeinio gweinidogion ei hun. Cwblhawyd y broses o ymwahanu pan gyhoeddodd Gyffes Ffydd yn [[1823]]. Tyfodd yr enwad yn gyflym yn hanner cyntaf y [[19eg ganrif]], dan arweiniad gwŷr fel [[John Elias]] (1774 - 1841) a [[John Jones, Talysarn]], i fod y mwyaf o enwadau anghydffurfiol Cymru. Roedd yn wahanol i'r enwadau anghydffurfiol eraill am ei fod yn arddel [[Calfiniaeth]]. Bu tŵf pellach yn dilyn [[Diwygiad 1904-1905]], dan arweiniad [[Evan Roberts]], ond ers hynny mae nifer yr aelodau wedi gostwng yn sylweddol.
 
Ar [[31 Rhagfyr]] [[2005]] roedd gan yr enwad 33,363 o aelodau gyda 69 o weinidogion llawn amser ac 20 o weinidogion rhan amser. Llywydd presennol y Gymanfa Gyffredinol (2006-07) yw'r Parch John Tudno Williams.
 
==Llyfryddiaeth==