Roma: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{defnyddiau eraill}}
{{ailgyfeirio|Romani|yr iaith|Romani (iaith)}}
Pobl [[nomad]]aidd sy'n tarddu o'r [[India]] yw'r '''Roma''' neu'r '''Romani'''. Adnabyddir yn draddodiadol gan yr enw [[Sipsiwn]], ond term a roddir arnynt gan eraill yw hwnnw a gall hefyd cyfeirio at grwpiau nomadaidd eraill.
 
Mae'n bosib bod y Roma yn perthyn i'r [[Dom (pobl)|Dom]] neu i'r [[castiau yn India|cast Indiaidd]] [[Domba]]. Datblygodd yr iaith [[Romani (iaith)|Romani]] rhywbryd ar ôl 500 CC yng nghanolbarth India. Dechreuodd y Roma fudo i'r gogledd tuag at [[Cashmir|Gashmir]] cyn 500 OC, ond arhosodd yn [[is-gyfandir India]] tan tua'r 9fed ganrif. Mudodd yna i'r gorllewin gan ymsefydlu yng ngorllewin [[Anatolia]] ac yn hwyrach ar draws [[Ewrop]], ac erbyn heddiw ar draws y byd.
 
Bu'r Roma yn dioddef rhagfarn ac erledigaeth trwy gydol eu hoes, gan gynnwys [[caethwasiaeth]] yn Nwyrain Ewrop, [[pogrom]]au, ac [[hil-laddiad]] yn [[yr Holocost]].
 
== Ffynhonnell ==
* Yaron Matras. ''I Met Lucky People: The Story of the Romani Gypsies'' (Llundain, Penguin, 2014).
 
[[Categori:Roma| ]]
[[Categori:Grwpiau ethnig yn Asia]]
[[Categori:Grwpiau ethnig yn Ewrop]]
[[Categori:Nomadiaid]]
{{eginyn Roma}}